Gordon’s Ultra Low Gin and Tonic

English | Cymraeg

Ein barn ar Gordon’s Ultra Low Gin and Tonic

Sgôr:

3/5

Cryfder: lla na 0.5%
Calorïau ymhob potelaid: 68 (72 ymhob 100ml)
Sgôr: 3 o 5

Does dim affliw o arwydd bod twf marchnad jin y wlad am arafu. Yn ystod 2017, gwariodd pobl Prydain bron i £1.4 biliwn arno fe, sy’n cyfateb i ryw 51 miliwn o boteleidiau o’r stwff.

Yn ôl pob golwg, mae’r awch amdano yn ddi-baid. Diolch i’r drefn, mae digon o ddewis ar gael erbyn hyn i’r rhai sy’n dwli ar y wirod feryw ond sydd am osgoi penmaenmawr bore trannoeth. Mae’r ddiod newydd yma gan Gordon’s ymhlith y goreuon.

Yn ôl y cwmni, cafodd ei datblygu yn gan ddyfeiswyr diodydd eu labordy yn sir Hertford ac mae’n cynnwys yr holl berlysiau sydd i’w cael yn Gordon’s London Dry Gin, ynghyd â mymryn bach o ddistyllad y jin, tipyn o gwinîn, a thamaid o ffrwyth – naill ai leim neu rawnffrwyth. Rysáit addawol iawn, ond sut mae’n blasu?

Rhagorol, a dweud y gwir. Wrth agor y botel, mae’n gwynto fel gwirod jin da. Mae ganddi hi’r swmp bydd diodydd fel arfer yn ei gael o alcohol, a dyw hi ddim yn teimlo’n denau o gwbl. Gallwch chi yn hawdd ei chamgymryd am jin-a-thonic o gryfder arferol. Mae’r un gyda leim yn llyfn, fel GnT traddodiadol. Mwy sur yw’r un gyda grawnffrwyth, fel coctêl jin pinc. Mae GnT di-alcohol Tesco yn dda. Ond mae hwn yn well.

Yn ôl i’r rhestr

Mae Drydrinker a Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.​