Martini Vibrante

English | Cymraeg

Ein barn ar Martini Vibrante

Sgôr:

5/5

Cryfder: llai na 0.5%
Calorïau ymhob 100ml: 60
Sgôr: 5 o 5

Prin yw’r diodydd mwy Eidalaidd na Martini. Mae nhw wrthi’n ei gwneud yn nhreflan Pessione wrth odre’r Alpau ers 1863.

Does dim byd arbennig anturus nac annisgwyl am y Martini Vibrante newydd yma. Ond efallai nad yw hynny yn ddrwg o beth. Yr hyn sydd gyda chi yma, yn y bôn, yw aperitivo Eidalaidd traddodiadol. Ac os yw’r olwyn yn gweithio, does dim angen ei hailddyfeisio, nac oes? Y gwahaniaeth mawr yw fod yr aperitivo yma yn analcolico.

Wedi’i gymysgu gyda dŵr soda neu ddŵr tonic, mae’n ddiod ysgafn, hyfryd. Diflannodd cynnwys y botel yn gyflym ar ôl i ni ei rhoi i’n panel profi – a dyna’r prawf cadarnaf fod y ddiod at eu dant!

Roedd Martini yn boblogaidd tu hwnt yn yr 1970au. Ar ei newydd wedd ddi-alcohol, mae’n haeddu ei atgyfodi.

Mae Drydrinker a Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.​