Lyre’s Amaretti

English | Cymraeg

Ein barn ar Lyre's Amaretti

Sgôr:

5/5

Gwirod Swyddogol Ionawr Sych 2022

Cryfder: 0%
Calorïau ymhob 100ml: 70
Sgôr: 5/5

Mae gan y fersiwn di-alcohol yma o’r wirod almonau boblogaidd flas almonaidd mor ddwfn fel byddech chi’n synnu nad oes ynddi’r un gneuen (sy’n newyddion braf i unrhyw un sydd fel arfer yn osgoi Amaretto oherwydd alergedd i gnau!) Mae hi hefyd yn ysgafn o ran calorïau, ac yn rhydd rhag llaeth, wyau, a glwten. Yr hyn sydd ynddi hi (yn ogystal â’i blas almonau rhyfeddol) yw fanila a thipyn o frathiad sbeisiog, ynghyd â theimlad caramel braf.

Ym marn ein panel profi, mae’n blasu ac yn teimlo’n agos i Amaretto alcoholaidd. Mae’n cael sêl ein bendith, yn sicr. Rydyn ni wedi ei chymysgu i wneud moctel Amaretti Sour – fel Amaretto Sour ond heb yr alcohol. Wedi’i chyfuno â surop siwgr, sudd lemwn, a gwyn ŵy, mae melystra’r blas almonau yn cyd-fynd â surni’r sitrws yn rhagorol. Blasus iawn! Cewch chi’r rysáit yma

ymhlith llawer o rai eraill.

Bachwch eich Lyre’s yma. Defnyddiwch y côd DRYJAN20 i gael 20% oddi ar bris pob potelaid 70cl o wirodydd

Mae Drydrinker a Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.​