Teetotal Cuba Libre

English | Cymraeg

Ein barn ar Teetotal Cuba Libre

Sgôr:

5/5

Cryfder: 0.0%
Calorïau ymhob 100ml: 36 (72 ymhob potelaid)
Sgôr: 5 o 5

Hyd yn hyn, diodydd wedi’u seilio ar jin yw’r rhan fwyaf o’r gwirodydd di-alcohol sydd ar gael. Felly, mae’n braf cael blasu rhywbeth cwbl wahanol.

Yn ôl y sôn, dyfeisiwyd Cuba Libre (Ciwba Rhydd) yn 1898 yn ystod Rhyfel Sbaen ac America, pan oedd milwyr yr Unol Daleithiau wrthi’n rhyddhau’r ynys rhag Ymerodraeth Sbaen. Daeth yr Americanwyr â Coca Cola i Giwba, ac roedd digon o rym o’r holl blanhigfeydd siwgr yno. Beth allai fod yn fwy naturiol na chyfuno’r ddau flas?

Beth bynnag yw ei gwreiddiau, mae’r ddiod yn cael ei chydnabod erbyn hyn gan Gymdeithas Ryngwladol y Barmyn fel clasur cyfoes. Ond dan ei henw mwy cyffredin, rym-a-côc, mae’n adnabyddus a phoblogaidd trwy’r byd.

Ond os oes diod lle byddai absenoldeb alcohol yn amlwg, onid hon yw hi? Nid felly, yn ôl pob golwg, os ydych chi’n gwybod beth i’w wneud. Yn ôl y broliant gan ein cyfeillion yn y Cwmni Gwirodydd Dirwestol, mae “blasau Caribïaidd a sbeisiau dethol” yn eu Cuba Libre nhw. Beth bynnag yw’r rheini, maen nhw’n gwneud y tro i’r dim. Tasech chi ddim yn ei wybod, go brin byddech chi’n dyfalu bod hon yn ddiod ddi-alcohol. Os rym-a-côc sydd at eich dant, prynwch hwn, a llawer ohono!

Cewch chi fe gan Dry Drinker a Wise Bartender.

Mae Drydrinker a Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.​