Teetotal GnT

English | Cymraeg

Ein barn ar Teetotal GnT

Sgôr:

4/5

Cryfder: llai na 0.5%
Calorïau ymhob 100ml: 26 (52 ymhob potelaid)
Sgôr: 4 o 5

Wedi’i lansio yn 2015, diod wahanol iawn i Seedlip yw hon – llawer agosach at ddiod jin arferol. Yn y bôn, GnT yw e i’r rhai sy’n cadw draw o’r ddiod gadarn. Yn ôl y cwmni, wrth iddynt nhw brofi’r blas gyda mwy na 10,000 o bobl, doedd y rhan fwyaf o bell ffordd ddim yn sylwi mai diod ddi-alcohol yw hon. Na ninnau chwaith.

Yn wahanol i Seedlip, mae wedi’i chymysgu’n barod mewn poteli 200ml, gan gyd-fynd â’r duedd gynyddol yn y prif archfarchnadoedd i werthu poteli a chaniau o wirodydd a ‘mixers’ sy’n barod i’w hyfed. Dylai fod lle iddi hefyd mewn tafarndai, lle byddai’n braf ei gweld yn yr oergell fel opsiwn mwy diddorol na’r arfer.

Mae hanes dyfeisio’r ddiod yr un mor ddiddorol. Penderfynodd tri ffrind yn sir Efrog ei bod yn hen bryd creu diod ysgafn i oedolion – rhywbeth nad oedd yn llawn swigod a siwgr. Fel tafarnwr, cemegydd a gŵr busnes, rhoddon nhw eu doniau ynghyd i geisio creu diod newydd o gynhwysion naturiol – “ rhywbeth i wneud i chi deimlo’n rhan o’r parti, ond heb yr alcohol”. Mae’n debyg iddyn nhw lwyddo.

Mae Drydrinker a Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.​