Three Spirit

English | Cymraeg

Ein barn ar Three Spirit

Sgôr:

2/5

Cryfder: 0%
Calorïau: 26 ymhob 50ml
Sgôr: 2 o 5

Mae diwyg a delwedd Three Spirit yn awgrymu mai dyma ddiod eithaf gwahanol i’r rhelyw o wirodydd di-alcohol sydd yma. A dyna yw hi, yn sicr!

Yn ôl ei chreawdwyr, gallwch chi ei hyfed ar ei phen ei hun ar rew, neu wedi’i chymysgu mewn coctel. Mae wedi’i chreu o gynhwysion llysieuol naturiol sydd i fod i effeithio er gwell ar ein hwyliau a’n hegni. Ymhlith y pethau hynod ynddi mae madarch mwng-y-llew, yerba mate, brenhinllys sanctaidd a finegr cnau coco.

Roedd ei blas unigryw yn rhannu ein panel profi yn ddau. Rhaid dweud byddwch chi naill ai’n dwli arni neu’n diflasu arni’n syth.

Mae ganddi liw brown tywyll trawiadol yn y gwydryn. Mae’r botel werdd dywyll yn cuddio lliw’r ddiod tu fewn, gan greu tipyn o ddirgelwch yn ei chylch. Mae blas go gryf iddi hi wrth ei hyfed ar ei phen ei hun, gydag adflas chwerw fel jin. Mae’n gwbl wahanol i’r gwirodydd dirwestol eraill sydd ar werth – gyda blas llawer mwy sawrus. Roedd ein profwyr yn canfod awgrymiadau o licris, sinsir, burum a ffigys. Os ydych chi’n mwyhau blas miniog priddlyd kombucha, efallai bydd hon at eich dant.

Wrth gael ei chymysgu â diod fyrlymus felys, mae Three Spirit yn ychwanegu cymhlethdod at y blas, gan gydbwyso melystra gormodol rhai mixers arferol. Rhoddon ni gynnig ar ambell un o’r syniadau am eu gweini sydd ar y wefan, ac roedden ni’n teimlo’n hwyliau ni’n gwella. Ai’r Three Spirit oedd hi, ynteu pleser chwarae gwneud coctêls? Bydd eisiau i chi ei phrofi drosoch eich hun er mwyn gwybod hynny.

Mae Drydrinker a Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.​