Wilfred’s Aperitif

English | Cymraeg

Ein barn ar Wilfred’s Aperitif

Sgôr:

3/5

Cryfder: 0.0%
Calorïau ymhob 100ml: 41
Sgôr: 3 out of 5

Tasai gwobrau am y diodydd gwychaf eu golwg, byddai hon ymhlith yr enillwyr. Gyda’i llinellau bwaog a’i lliwiau art-deco, mae fel rhywbeth o fyd y Great Gatsby neu un o ystafelloedd moethus Charles Rennie Mackintosh.

Cafodd Wilfreds’ Aperitif ei dyfeisio gan Chris Wilfred Hughes, oherwydd ei rwystredigaeth am y “dewisiadau di-fflach a rhy felys sydd ar gael” i’r sawl sydd am gael noson ddi-alcohol. Roedd e’n anelu am “ail-greu holl gymhlethdod y clasuron ond heb yr alcohol”.

Wedi arbrofi am ddwy flynedd, a thrio cant a rhagor o ryseitiau, fe greodd e hon – gwedd newydd ar yr aperitivo Eidalaidd neu’r apéritif Ffrengig, gan ddefnyddio orenau marmaled chwerw-felys, rhiwbob, a rhosmari o ardd y teulu.

Diod gyda lliw gwaetgoch dwfn yw’r canlyniad, gydag arogl sbeisiog cryf – bron yn Nadoligaidd. Mae ganddo flas cryf chwerw-felys ac adflas sych dros ben. Os yw aperitivo chwerw at eich dant, rhowch gynnig ar hon!

Mae Drydrinker a Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.​