Æcorn Bitter

English | Cymraeg

Ein barn ar Æcorn Bitter

Sgôr:

4/5

Cryfder: llai na 0.5%
Calorïau ymhob 100ml: 47
Sgôr: 4 o 5

Yn ôl y broliant, mae Æcorn Bitter yn ddiod “ddigyfaddawd o chwerw”. Ac os nad yw diodydd chwerw at eich dant, mae’n fwy na thebyg na fydd hon chwaith.

Fel holl ddiodydd Æcorn, mae wedi’i chreu o sudd grawnwin anaeddfed, wedi’i gymysgu yn yr achos yma gyda grawnffrwyth, dail llawryf, orenau, cwasia, diliau mêl a derw. Er bod y cynhwysion braidd yn wahanol i’r arfer, diod eithaf traddodiadol yw hon – mewn ffordd dda! Yr hyn sydd gennym yma, yn y bôn, yw aperitivo analolico yn y dull Eidalaidd – math o ddiod a fu’n ffefryn mawr gan Eidalwyr ac ymwelwyr â’r Eidal ers achau.

Gallwch chi ei hyfed ar ei phen ei hunan neu gyda dŵr soda neu donic. P’run ffordd bynnag, mae’n ddiod ddymunol iawn.

Mae Drydrinker a Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.​