Æcorn Dry

English | Cymraeg

Ein barn ar Æcorn Dry

Sgôr:

3/5

Cryfder: llai na 0.5%
Calorïau ymhob 100ml: 35
Sgôr: 3 o 5

Man cychwyn diodydd Æcorn yw verjus – yn llythrennol “sudd gwyrdd” – sydd yn dod o wasgu grawnwin anaeddfed. Mae grawnwin Chardonnay, Pinot Noir a Munier yn cael eu casglu o winllan yn Sussex, a’u sudd yn cael ei gymysgu â chlari, camri, te du, cwasia a derw. O ganlyniad, mae i’r ddiod flas lled felys sudd grawnwin i ddechrau, gydag adflas perlysiau chwerw wedyn.

Mae pob un o ddiodydd Æcorn yn dod mewn poteli gwyrdd tywyll trwsiadus, gyda llythrennau aur a delw deilen dderw ar y label. Dewch chi o hyd iddyn nhw yn Sainsbury’s a Waitrose.

Mae Drydrinker a Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.​