Gair i gall – yfed llai

English | Cymraeg

Ydych chi’n ystyried faint rydych chi’n ei yfed, ond yn ansicr sut i dechrau tocio arno? Dyma ambell air i gall am sut i yfed llai.

Yfwch a meddyliwch mewn unedau

Mae Prif Swyddogion Meddygol Prydain (prif ddoctoriaid y wlad) yn dweud na ddylen ni yfed mwy na 14 uned yr wythnos, sef dim mwy na rhyw chwe pheint o gwrw, neu botelaid a hanner o win. Defnyddiwch ein teclyn cyfrif unedau i’ch helpu chi i ddeall faint rydych chi’n ei yfed.

Cadwch ddyddiadur yfed

Bydd cadw dyddiadur yfed yn eich helpu chi i ddeall eich patrwm yfed, fel gallwch chi benderfynu beth rydych chi’n fodlon arno a beth rydych chi eisiau ei newid.

Ymlaciwch

Mwynhewch bob diod yn araf deg, a chofiwch nad oes rhaid i chi fod yn rhan o bob rownd. Ewch am ddiodydd rydych chi wir yn eu hoffi, ac anghofiwch am yfed er ei fwyn ei hun.

Rhowch gynnig ar ddiodydd di-alcohol neu llai alcoholaidd

Roedd cwrw, seidr a gwinoedd di-alcohol yn warthus ar un adeg. Ond maen nhw wedi gwella i’r fath raddau yn y blynyddoedd diwethaf nes ennill gwobrau wrth gystadlu yn erbyn diodydd o gryfder arferol. Mae adran ddiodydd di-alcohol mewn llawer o siopau bwyd erbyn hyn. Darllenwch ein hadolygiadau o ddiodydd di-alcohol neu brin eu halcohol er mwyn eich helpu chi i ddewis.

Croeso i chi wrthod!

Nid pawb sy’n yfed alcohol, a does dim byd anghwrtais am wrthod diod. Mae’n rhyfedd yw faint o bobl sy’n meddwl ei bod hi’n iawn pwyso ar rywun arall i ddiota.

Cymerwch ddau ddiwrnod neu dri heb alcohol bob wythnos

Trwy gymryd ychydig o ddiwrnodau di-alcohol pob wythnos, byddwch chi’n yfed llai ac yn rhoi seibiant i’ch corff.

Peidio ag yfed mwy na 14 uned yr wythnos yw’r peth gorau. Rhannwch eich diodydd rhwng ychydig o ddyddiau a chymerwch ychydig o ddyddiau sych.

Ceisiwch fwyta rhywbeth cyn yfed ac wrth yfed

Bwytewch rywbeth cyn yfed, ac, os yw’n bosibl, tra byddwch chi’n yfed. Bydd hyn yn arafu’r alcohol wrth iddo fynd i mewn i’ch gwaed, ac yn eich helpu chi i yfed yn fwy pwyllog.

Gofynnwch am gymorth

Gofynnwch am gymorth os ydych chi’n credu eich bod chi’n yfed gormod. Does dim eisiau teimlo cywilydd. Mae llawer o bobl yn cael problemau ag alcohol ar ryw adeg, ac angen cymorth er mwyn dod trwyddyn nhw. Siaradwch â’ch doctor neu cysylltwch â’r gwasanaeth triniaeth alcohol lleol.