Ffrindiau a’r teulu

English | Cymraeg

Mae yfed niweidiol yn gallu achosi problemau mawr i yfwyr, ond hefyd i’r rhai o’u cwmpas, gan gynnwys trafferthion iechyd, gofidiau ariannol, straen ar berthnasau ac esgeuluso plant.

Ydych chi’n dioddef oherwydd yfed gan rywun arall? Mae cymorth wrth law.

Darllenwch ein canllaw i wasanaethau cefnogi teuluoedd (Saesneg yn unig)

Dod o hyd i gymorth i chi

Gwaith blinderus a llethol weithiau yw gofalu am rywun sy’n yfed yn ormodol. Felly, mae’n bwysig gwneud yn siŵr eich bod chi’n cael digon o gwsg a bod gennych ffyrdd i fwrw’ch gofid, a phobl gerllaw i chi siarad am eich teimladau.

Ceisiwch gyngor a chymorth gan rywun proffesiynol, gan ddechrau gyda’ch doctor, o bosibl; neu gallwch chi gysylltu’n syth â gwasanaeth triniaeth alcohol. Mae asiantaethau hefyd sy’n gweithio’n arbennig gyda theuluoedd, ffrindiau a chynhalwyr yfwyr, er mwyn eu help nhw gyda’r anawsterau yn eu bywydau nhw. Darllenwch ein canllaw i wasanaethau cefnogi teuluoedd, sy’n cynnwys rhestr o’r prif asiantaethau sy’n gallu eich helpu.

Cofiwch na allwch chi ddim rheoli faint maen rhywun arall yn ei yfed – maen ganddyn nhw eu rhesymau eu hun dros yfed; nid eich bai chi yw e.

Cofiwch na allwch chi ddim rheoli faint maen rhywun arall yn ei yfed – maen ganddyn nhw eu rhesymau eu hun dros yfed; nid eich bai chi yw e.