Meddwl o ddifrif: Mynd i’r afael â niwed alcoholaidd i’r ymennydd

English | Cymraeg

17 Mawrth 2014

Llwythwch i lawr pdf

Bachwch yr adroddiad (1.12Mb)

Nodwch: Cafodd yr adroddiad hwn ei ariannu neu’i ysgrifennu gennym o dan ein henw blaenorol Alcohol Concern.

Cyflwyniad

Yn y papur hwn, rydym yn ystyried yr amrywiaeth o gyflyrau sydd i’w cael o dan y diffiniad cyffredinol niwed neu nam alcoholaidd i’r ymennydd (ARBD neu ARBI). Dengys y cyflyrau hyn amrywiaeth o symptomau cyffelyb, gan gynnwys dryswch, y cof yn pallu, ac anhawster rhesymu a deall. Canlyniad ydynt i’r niwed corfforol y mae alcohol, fel gwenwyn, yn ei wneud i feinwe’r ymennydd, ar y cyd â diffyg maeth o ganlyniad i oryfed.

Er ei fod yn llai cyffredin na rhai afiechydon alcoholaidd eraill, mae ARBD yn cynnig her ddifrifol o ran iechyd cyhoeddus, ac yn dal i gael ei anwybyddu a’i gamddeall i raddau helaeth iawn. Nod y papur hwn yw ceisio cael gwared ar lawer o’r anwybodaeth ynghylch ARBD, a’i weld yng nghyddestun patrymau yfed ein cymdeithas, yn hytrach na derbyn yr ystrydeb ohono fel anhwylder eithafol sy’n taro’r rhai sydd â phroblemau yfed amlwg. Mae hefyd yn pwysleisio’r ffaith – yn wahanol i rai mathau eraill o nam meddyliol – nad cyflwr sy’n gwaethygu’n anochel mo ARBD, ac y gellir ei drin yn llwyddiannus. Mae’n dadlau dros sicrhau bod triniaeth briodol ar gael yn brydlon i bawb sy’n gallu elwa ohoni.