Estyn y brand: Sut mae brandiau alcohol yn gwthio ffiniau marchnata

English | Cymraeg

3 Mawrth 2014

Llwythwch i lawr pdf

Bachwch y papur briffio (0.43Mb)

Nodwch: Cafodd yr adroddiad hwn ei ariannu neu’i ysgrifennu gennym o dan ein henw blaenorol Alcohol Concern.

Cyflwyniad

Yn y papur briffio hwn, rydym yn ystyried sut mae cwmnïau alcohol yn cysylltu eu brandiau â chynhyrchion di-alcohol er mwyn ehangu eu cyrhaeddiad marchnata. Mae nifer o gynhyrchwyr diodydd mawr wedi rhoi enwau eu brandiau ar nwyddau mor amrywiol â hufen iâ ac ymbaréls, ac mae’n amlwg bod rhai’n credu bod ehangu’r brand yn y fath fodd yn ffordd ychwanegol i fynd â’u negeseuon marchnata i mewn i gartrefi cwsmeriaid, er enghraifft drwy eu cysylltu â bwydydd; neu i ddenu cwsmeriaid i dalu am fod yn hysbysebwyr trwy brynu dillad a nwyddau eraill sydd wedi’u brandio. Er bod hyn i gyd yn ddigon diniwed yr olwg, efallai, mae ymchwil ryngwladol yn awgrymu, lle y caiff rheolau ar farchnata alcohol eu tynhau, bod strategaethau estyn brand yn ffordd effeithiol i gwmnïau alcohol eu goresgyn.