Priodol a digonol? Dadansoddi gwaith Grŵp Portman yn rheoleiddio’r diwydiant alcohol

English | Cymraeg

6 Gorffennaf 2018

Llwythwch i lawr pdf

Bachwch yr adroddiad (1Mb)

Nodwch: Cafodd yr adroddiad hwn ei ariannu neu’i ysgrifennu gennym o dan ein henw blaenorol Alcohol Concern.

Crynodeb gweithredol

Sefydlwyd Grŵp Portman yn 1989 a bu’n un o brif reoleiddwyr y diwydiant alcohol ers 1996. Mae’r Grŵp yn cynnal Panel Cwynion Annibynnol sy’n dyfarnu ar gwynion am enwau, pecynnau a deunyddiau marchnata diodydd alcoholaidd, ar sail Côd Ymarfer.

O 2006 hyd at 2017, cyhoeddodd y Panel cyfanswm o 99 o benderfyniadau ar droseddau honedig yn erbyn y Côd Ymarfer. Mae’r adroddiad hwn yn cyflwyno ein dadansoddiad ni o’r 99 o benderfyniadau. Er bod nifer o benderfyniadau’r Panel wedi bod yn effeithiol trwy gael gwared ar gynnyrch a oedd yn groes i’r Côd, gwelsom:

  • Nad yw penderfyniadau’r Panel bob tro wedi bod yn gyson â’i gilydd
  • Bu ei benderfyniadau yn aml i’w gweld yn oddrychol, heb eglurhad amlwg o’r rhesymeg tu ôl iddynt na’r dystiolaeth sy’n sylfaen iddynt
  • Mae diffyg goruchwylio a chraffu ar y Panel, ac felly, faint bynnag mor alluogog neu annibynol yw’r aelodau unigol, mae prinder atebolrwydd yn y broses gyfan

Daethom i’r casgliad, o ystyried maint ac effeithiau posibl marchnata alcohol ar draws y gymdeithas, y byddai’n well ei reoleiddio gan gorff annibynnol gyda llawer mwy o atebolrwydd a goruchwyliaeth gyhoeddus. Gallai corff o’r fath hyn yn hybu cysondeb yn y penderfyniadau, defnyddio tystiolaeth o ymchwil yn fwy amlwg er mwyn deall prosesau marchnata, a hefyd mabwysiadu proses apelio mwy cadarn.

Dau ddiben eglur a ddylai fod gan Godau Ymarfer: nid yn unig atal troseddau yn erbyn ymarfer da, a’u cosbi, ond hefyd cyfrannu at leihau niwed alcohol. Byddai angen iddo hefyd Crynodeb gweithredol ystyried dulliau hyrwyddo diodydd unigol yng nghyd-destun y cymysgedd marchnata ehangach. Ar hyn o bryd, mae’r cyfrifoldeb am gloriannau cynnyrch wedi’i rannu rhwng yr Awdurdod Safonau Hysbysebu a Grŵp Portman.

Byddai sefydlu rheoleiddiwr annibynnol, ar seiliau statudol, yn gorfodi’r rheoleiddiwr i roi atebion llawn i’r cyhoedd a’u cynrychiolwyr etholedig. Byddai’n cadarnhau dilysrwydd prosesau penderfynu’r Panel, gan osgoi unrhyw agraff bod ei benderfyniadau wedi’u tanseilio gan gysylltiadau â’r diwydiant alchol neu garfanau eraill.

Ein gobaith yw fod yr adroddiad hwn yn cyflwyno beirniadaeth adeiladol ar y drefn sydd ohoni, gan gydanbod bod y Panel yn ymgymryd â gwaith cymhleth a dadleuol ac nad yw’n debygol o rygnu bodd pawb. Yn y pen draw, daw i’r casgliad nad yw hunan-reoleiddio yn briodol i’r farchnad alcohol, nid yn unig oherwydd nad yw’n creu lle i ddigon o’r craffu a goruchwylio sydd angen, ond hefyd am fod ceisio lleihau effeithiau cymdeithasol niweidiol marchnata alcohol anghyfrifol yn gwrthdaro yn aml ac yn anorfod ag amcanion marchnatwyr alcohol.

Dylai Llywodraeth Prydain, fel rhan o’r Strategaeth Alcohol sydd ganddi ar y gweill, sefydlu adolygiad cynhwysfawr o reoleiddio marchnata alcohol, gan gynnwys swyddogaethau presennol Grŵp Portman, yr Awdurdod Safonau Hysbysebu a chyrff perthnasol eraill. Dylai’r adolygiad hwn sefydlu’n glir ar ba seiliau y dylid rheoleiddio marchnata; sut y dylai corff rheoleiddio ymdrin â heriau unigryw’r dirwedd farchnata gymhleth, aml-blatfform; a sut y gellir sicrhau craffu cyhoeddus, didueddrwydd ac ymroddiad i lynu wrth dystiolaeth gadarn.