“Yn y pen draw, ei benderfyniad e yw yfed cymaint â hynny.”
Dyna sut soniodd rheolwr un cartref gofal am gefnogi preswyliwr oedd yn yfed potelaid o win coch bob nos.
Roedd staff yn pryderu. Roedden nhw’n gallu gweld y peryglon: gwaeth iechyd, gwaeth hwyliau, mwy o siawns o faglu neu ryw ddamwain arall.
Ond roedd gan y person yma allu meddyliol i ddewis. Roedd e’n deall beth roedd e’n ei wneud: yn gallu cloriannu gwybodaeth a phenderfynu faint i’w yfed, ac yn gallu mynegi ei ddymuniadau.
Fel esboniodd y rheolwr:
“Wrth reswm, mae ein tîm ni eisiau gofalu am rywun. Ac weithiau mae rhaid i chi bwysleisio fod e, chi’n gwybod, yn penderfynu drosto fe ei hun. Ac er bod ni, efallai, yn gweld ei benderfyniadau yn rhai annoeth, yn y pen draw, ei benderfyniad e yw yfed cymaint â hynny.”
Dyna’r tyndra sydd wrth graidd ymchwil newydd rydym ni wedi’i chomisiynu gan y cwmni ymchwil Practice Solutions.
Gofynnon ni iddyn nhw edrych ar gwestiwn syml yr olwg ond dyrys mewn gwirionedd, sef sut mae cartrefi gofal Cymru yn cydbwyso hawl preswylwyr i yfed alcohol ar y naill law, a’r angen i’w cadw’n ddiogel ar y llall?
Buodd yr ymchwilwyr yn cynnal arolwg, ac yn siarad gyda staff a rheolwyr cartrefi gofal, arweinwyr y sector, a phreswylwyr cartrefi led-led Cymru. Clywson nhw sylwadau gonest, ystyrlon, ac anodd ambell waith.
Yn ddi-os, cartrefi pobl yw cartrefi gofal. Does neb yn ildio ei hawliau wrth ymgartrefi mewn cyfleuster gofal preswyl. Bydd rhai preswylwyr am fwynhau diod. I rai, bydd hi’n eu helpu nhw i deimlo’n normal a theimlo’n gartrefol.
Fel dwedodd un preswylydd wrth y tîm ymchwil:
“Mae meddwl am allu cael diod – mae’n gwneud y lle’n fwy cartrefol, mwy rhydd.”
Dwedodd un arall:
“Os gallwch chi gael diod, o beth bynnag dych chi eisiau, mae’n rhywbeth neis ac arbennig. Dyna sut mae fe, yn eich pen.”
Bydd alcohol yn ddull cymdeithasu i rai, felly nododd un rheolwr:
“Mae tair gwraig sy’n cael gwydraid o Baileys, cwpl o weithiau bob wythnos, ac yn cloncian. Mae’n dod â nhw mas o’u stafelloedd nhw.”
Mae’n eglur fod alcohol yn rhan o hunaniaeth, cysylltiad, a threfn feunyddiol i lawer un. Ond, wrth gwrs, mae alcohol yn gallu achosi niwed.
Wrth i ni heneiddio, mae ein cyrff ni’n newid. Rydym ni’n treulio alcohol yn fwy araf. Efallai byddwn ni’n cymryd mwy o foddion; efallai byddwn ni’n fwy tebygol o gwympo. Ac mae alcohol yn gallu dwysau’r peryglon i’n hiechyd a’n diogelwch.
Cipolwg oedd yr ymchwil yma, ar sail sampl o gartrefi. Allwn ni ddim honni bod profiad pob cartref gofal yng Nghymru yr un peth. Ond mae’n datguddio rhywfaint am y sefyllfaoedd mae staff yn eu hwynebu, a ble mae angen mwy o gefnogaeth arnyn nhw, o bosib.
Roedd bron i hanner y rhai ymatebodd i’r arolwg yn dweud eu bod wedi cefnogi preswylwyr oedd yn ddibynnol ar alcohol. Ond llai nag un ymhob pump oedd wedi cael hyfforddiant ar faterion alcohol.
Roedd staff yn dweud wrth yr ymchwilwyr eu bod nhw weithiau’n wynebu sefyllfaoedd anodd wrth geisio cefnogi preswylwyr. Er enghraifft, disgrifiodd un rheolwr argyfwng ym mywyd preswylydd oherwydd cyfuniad o afiechyd meddwl a dibyniaeth ar alcohol:
“Y peth ddigwyddodd, ac fe ddigwyddodd gyda’r gŵr yma, oedd argyfwng. Wastad ar y penwythnos! Roedd e eisiau gadael. Roedd e’n mynnu nad oedd e am aros, a dyna sefyllfa anffodus oedd gyda ni. A doedd dim cefnogaeth.”
Pan geisiodd staff gael help, roedd hi’n anodd ar y naw:
“Ni’n methu cael cymorth. Aethon ni at y tîm argyfwng. Aethon ni at bawb. Trïon ni hwn a’r llall...Dwi’n credu iddyn nhw ffonio un-ar-ddeg o asiantaethau. Cymaint o bobl. [Y] tîm iechyd meddwl. I geisio rhyw gymorth. Doedd neb ar gael.”
Dim ond esiampl yw hon, ac ni ellir dweud bod pethau tebyg yn digwydd ymhob cartref gofal yng Nghymru; ond mae’n dangos mor anodd gallai pethau fod i staff cartrefi gofal wrth ymdrin â’r fath faterion cymhleth.
Gall pethau fod yn anodd hefyd pan fydd arferion yfed un person yn effeithio ar breswylwyr eraill. Yng ngeiriau un rheolwr:
“Pan fydd e’n effeithio ar les y person sy’n byw drws nesaf, peth arall yw hwnna. Felly, rheoli’r effaith sy’n bwysig.”
Rhaid i gynnal hawliau un person beidio â thanseilio lles neb arall. Ond sut mae cyrraedd cydbwysedd?
Fel elusen alcohol, lleihau niwed yw ein nod. Rydym ni am i bobl fwynhau urddas a rhyddid, ac osgoi niwed lle bo modd.
Er mwyn hynny, bydd angen rhoi sgiliau a hyder i staff.
Mae’r tîm ymchwil wedi awgrymu sawl cam ymarferol, gan gynnwys:
- Dylai cartrefi gofal ystyried llunio polisi penodol ar alcohol. Er nad yw’r ymchwil yma yn dangos bod polisïau o’r fath yn arwain o reidrwydd at lai o niwed, mae’n awgrymu bod canllawiau clir yn hybu cysondeb wrth benderfynu, yn rhoi hyder i staff, ac yn gwneud disgwyliadau’n eglur i breswylwyr a’u teuluoedd.
- Efallai bydd cartrefi gofal am ystyried a oes digon o sylw i alcohol yn eu rhaglenni hyfforddi i staff. Nid yw’n glir pa mor gyflawn yw’r hyfforddiant ar draws Cymru, ond yn ôl ei harolwg ni roedd llai nag un ymhob pump o’r bobl ymatebodd yn dweud iddyn nhw gael hyfforddiant penodol ar alcohol.
- Efallai bydd Arolygiaeth Gofal Cymru, Byrddau Cynllunio Ardaloedd, a Llywodraeth Cymru am ystyried a oes gan gartrefi gofal ganllawiau clir ac a oes ffyrdd iddyn nhw gael cymorth arbenigol ynglŷn â materion alcohol, er mwyn hybu cysondeb gofal yn y sector.
Wrth ystyried alcohol mewn cartrefi gofal, felly, mae cwestiynau dyrys yn codi. Sut mae parchu dewis a chadw pawb yn ddiogel? Sut mae hwyluso mwynhad heb niwed?
Os ydyn ni am leihau problemau alcohol yng Nghymru, mae rhaid i bobl hŷn, wrth reswm, fod yn rhan o’r drafodaeth. Ac yn ôl pob golwg, byddai cartrefi gofal yn elwa o gymorth er mwyn gallu cynnig alcohol mewn ffyrdd sy’n parchu rhyddid ac yn sicrhau diogelwch.
Os ydych chi am fynd ati i wneud newidiadau ymarferol, bachwch ein cardiau cychwyn sgwrs ar gyfer helpu preswylwyr cartrefi gofal i leisio eu barn ynglŷn ag alcohol, a'n cardiau sefyllfaoedd i gynorthwyo staff i gynllunio ar gyfer ymdrin â materion alcohol. Mae'r ddwy set ar gael yn Gymraeg a Saesneg.
Cewch chi'r adnoddau yma