Gwaith blinderus a llethol weithiau yw gofalu am rywun sy’n yfed yn ormodol. Felly, mae’n bwysig gwneud yn siŵr eich bod chi’n cael digon o gwsg a bod gennych ffyrdd i fwrw’ch gofid, a phobl gerllaw i chi siarad am eich teimladau.
Ceisiwch gyngor a chymorth gan rywun proffesiynol, gan ddechrau gyda’ch doctor, o bosibl; neu gallwch chi gysylltu’n syth â gwasanaeth triniaeth alcohol. Mae asiantaethau hefyd sy’n gweithio’n arbennig gyda theuluoedd, ffrindiau a chynhalwyr yfwyr, er mwyn eu help nhw gyda’r anawsterau yn eu bywydau nhw. Darllenwch ein canllaw i wasanaethau cefnogi teuluoedd, sy’n cynnwys rhestr o’r prif asiantaethau sy’n gallu eich helpu.
Cofiwch na allwch chi ddim rheoli faint maen rhywun arall yn ei yfed – maen ganddyn nhw eu rhesymau eu hun dros yfed; nid eich bai chi yw e.
Cofiwch na allwch chi ddim rheoli faint maen rhywun arall yn ei yfed – maen ganddyn nhw eu rhesymau eu hun dros yfed; nid eich bai chi yw e.