Isafbris yn un o gonglfeini lleihau niwed alcohol, yn ôl yr ymchwil ddiweddaraf o Gymru

English | Cymraeg

January 2025 | 9 minutes

Bron i bum mlynedd wedi i isafbris am alcohol gael ei gyflwyno yng Nghymru, mae’r gwerthusiad swyddogol yn dangos pam mae’r mesur mor bwysig ag erioed.

Peth pwysig yw pris. Gwyddom ers blynyddoedd fod cost alcohol i’r cwsmer yn dylanwadu’n fawr ar faint sy’n cael ei brynu a’i yfed. Yn 2010, dangosodd ymchwil gynhwysfawr gan Brifysgolion Bangor ac Wrecsam mai “pris a pha mor fforddiadwy yw alcohol yw’r prif bethau sy’n penderfynu faint sy’n cael ei yfed ymhob carfan o’r boblogaeth gyffredin”. Nid ysgolheigion Cymru oedd yr unig a gredai hynny chwaith: yn 2012 pleidleisiodd Senedd yr Alban dros gyflwyno isafbris o 50c am bob uned o alcohol. Wedi brwydr hir yn y llysoedd gyda’r diwydiant alcohol, daeth yr isafbris i rym yn yr Alban yn 2018. Ddwy flynedd wedyn, gwelwyd deddfwriaeth gyffelyb ar waith yng Nghymru.

Bu cryn waith ers hynny i asesu pa mor dda mae’r polisi’n gweithio yn y ddwy diriogaeth. Yn 2023, nododd Iechyd Cyhoeddus yr Alban fod yr isafbris yno wedi cael “effaith gadarnhaol ar ganlyniadau iechyd” heb “ddim tystiolaeth glir o niwed cymdeithasol ar lefel y boblogaeth”. Heddiw – 15 Ionawr 2025 – cyhoeddir yr adroddiadau gwerthuso swyddogol ar isfabris Cymru, ac mae’r neges o’r ochr yma i Glawdd Offa yn un gadarnhaol hefyd.

Mae effaith amlycaf isafbris Cymru i’w gweld ar y diodydd rhataf, cryfaf – fel y “seidr gwyn” sydd yn aml yn ddewis ddiod gan yfwyr sy’n ddibynnol ar alcohol ers tro. A rhoi un enghraifft nodweddiadol, cyn yr isafbris roedd poteli 3-litr o seidr adnabyddus gyda chryfder o 7.5% ar werth yng Nghymru am £3.99. Gydag isafbris o 50c yr uned, ni ellid gwerthu’r botel yna – oedd yn dal 22.5 uned o alcohol – am lai na £11.25. Ar y fath bris, ni fynnai prin neb eu prynu. O ganlyniad, yn lle poteli 3-litr a 2-litr o seidr cryf ar y silffoedd mae caniau 500ml. Efallai nad yw hyn i’w weld yn newid arbennig o arwyddocaol, ond cam mawr yw e mewn gwirionedd tuag at leihau niwed, gan arafu yfed gan yr yfwyr mwyaf bregus trwy roi mwy o gamau yn y broses yfed.

Mae’r isafbris hefyd wedi tynnu rhai o’r gwirodydd rhataf allan o’r farchnad, ac wedi ei gwneud yn fwy anodd i’r siopau mawrion cynnig disgowntiau am brynu yn swmp, fel tair potelaid o win am bris dwy. Nid yw deddf yr isafbris yn gwahardd y fath gynigion, ond ni ellir disgowntio i’r fath raddau nes mynd â phris unrhyw un botelaid o dan trothwy yr isafbris. Yn galonogol hefyd, prin iawn yw’r dystiolaeth o rai o’r pethau roedd rhai’n ofni eu gweld yn sgîl yr isafbris – fel newid o alcohol i gyffuriau anghyfreithlon; pobl yn rhuthro i brynu alcohol ym Mryste a Chaer; neu frwdfrydedd newydd dros fragu gartref!

Wrth reswm, nid oes y fath beth â pholisi perffaith. Gwelodd y gwerthuswyr fod isafbris Cymru wedi cael “effaith negyddol trwy gynyddu straen ariannol” ar bobl ar incwm isel oedd yn yfed yn drwm, a bod hyn weithiau’n arwain at “fynd heb fwyd neu beidio â thalu biliau eraill”. Roedd yr ymchwilwyr yn glir, er hynny, nad problem newydd wedi’i hachosi gan yr isafbris oedd hon. Yn hytrach, “estyniad [yw e] o ddulliau ymdopi arferol”. Mae hefyd yn eglur nad alcohol rhatach yw’r ateb i’r broblem yma; eithr gwell cefnogaeth i bobl gyda phroblemau alcohol. Dyna un rheswm mae Alcohol Change UK yn gweithio ers 2019 i ddeall y berthynas rhwng yfed gormodol a bwyta annigonol; a dyna pam byddwn ni’n cyhoeddi ein Llawlyfr Llond Plât yn mis Mawrth 2025 – ar y cyd â Barod a’r Nelson Trust – ar sut i gefnogi pobl gyda phroblemau alcohol i fwyta gwell bwyd a mwy ohono.

Un o elfennau pwysig deddf isafbris Cymru yw’r “ddarpariaeth fachlud”, sy’n dweud, os nad adnewyddir y mesur erbyn mis Mawrth 2026, y bydd e’n cael ei ddileu o’r llyfr statud. At ei gilydd, neges y gwerthusiad yw fod yr isafbris wedi bod yn fuddiol yng Nghymru, ac y dylid ei gadw, ynghyd â rhaglen o gymorth i bobol ar incwm isel sy’n ddibynnol ar alcohol. Mae hefyd yn werth sylwi ar y perygl a nododd y gwerthuswyr, os gadewir i’r isafbris ddod i ben yng Nghymru, ei bod yn gwbl bosibl na fydd modd dod ag e’n ôl heb ganiatâd Llywodraeth y Deyrnas Unedig, gan fod Deddf Cymru 2017 wedi gwneud “gwerthu alcohol a’i gyflenwi” yn fater i San Steffan. Yn hynny o beth, gellid ystyried colli’r isafbris yng Nghymru yn gam yn ôl o ran datganoli.

Cwestiwn arall y bydd rhaid ei ateb cyn Mawrth 2026 yw ai 50c yw’r lefel briodol i isafbris Cymru erbyn hyn. Mae ein ymchwil ni, a’r adroddiad gwerthuso, yn dangos bod effeithiau’r isafbris 50c wedi lleihau dros amser oherwydd chwyddiant prisiau. O ganlyniad, er mwyn cael yr un effaith yn 2025, byddai’n rhaid i’r isafbris fod yn nes at 65c – y swm a ddewisodd Senedd yr Alban fel isafbris newydd yn 2024. Dim ond un ffordd mae chwyddiant yn mynd fel arfer, a heb ei gynyddu ar ryw bwynt, mae’n sicr y bydd effeithiolrwydd isafbris Cymru yn lleihau nes mynd yn ddiystyr yn y pendraw.

Mae cwestiwn yma hefyd i Lywodraeth Prydain. Gydag isafbris ar waith yng Nghymru a’r Alban, ac ar y gweill yng Ngogledd Iwerddon, mae rhaid gofyn pam mae oedi o hyd yn Lloegr cyn cyflwyno’r mesur syml yma i leihau niwed alcohol.