Press release: 1 ymhob 10 o yfwyr Cymru yn dweud ’bod nhw’n yfed llai oherwydd yr isafbris

English | Cymraeg

Alcohol Change UK | October 2020 | 8 minutes

Chwe mis wedi i isafbris am alcohol gael ei gyflwyno yng Nghymru, mae un ymhob deg o yfwyr y wlad yn dweud eu bod nhw’n yfed llai o’i herwydd. Dyna neges arolwg sydd newydd gael ei chyhoeddi gan yr elusen Alcohol Change UK.

Daeth yr isafbris i rym yng Nghymru ym mis Mawrth, gan osod pris gwaelodol o 50 ceiniog am bob uned (10ml) o alcohol pur sydd ar werth, ni waeth ymha fath o ddiod. Cafodd y mesur ei gyflwyno gan Lywodraeth Cymru er mwyn lleihau yfed niweidiol, trwy godi prisiau’r diodydd cryfaf a rhataf, sydd yn aml cael eu hyfed gan yr yfwyr trymaf a mwyaf bregus.

Ddechrau Medi, ar ran Alcohol Change UK, holodd ymchwilwyr OnePoll 1,000 o oedolion yng Nghymru sydd fel arfer yn yfed alcohol. Dywedodd tri chwarter o bobl eu nhw’n gwybod am yr isafbris, o gymharu â chwta hanner o bobl flwyddyn yn ôl. O’r rhai a wyddai am yr isfabris, dywedodd 10% eu bod yn yfed llai o alcohol o’i herwydd.

Dywedodd Andrew Misell, Cyfarwyddwr Cymru Alcohol Change UK:

“Mae’r ffigurau yma yn galonogol. Yn ôl pob golwg, mae mwy o bobl yn gwybod am yr isfabris ac mae ambell arwydd cynnar fod rhai yn yfed llai oherwydd y mesur.

“Mae tystiolaeth dda mai codi pris alcohol rhad, fel seidr cryf a rhad, yw un o’r ffyrdd gorau i wthio’r yfwyr trymaf i yfed llai. Cyn yr isafbris, roedd poteli mawr 3-litr o seidr ar gryfder o 7.5% ar werth yng Nghymru am gyn lleied â £3.99, sef cwta 18 ceiniog yr uned. Ar 50 ceiniog yr uned, mae’n amhosibl gwerthu’r fath boteli mawrion am lai na £11.25.”

Mae ymchwil gan Alcohol Change UK mewn siopau yng Nghymru yn awgrymu mai annog cynhyrchwyr i werthu eu diodydd mewn poteli llai eu maint yw un ffordd mae’r isafbris yn lleihau faint o alcohol a yfir yng Nghymru. O dan reolau’r isafbris, po leiaf o alcohol sydd mewn potel, yr isaf mae’r pris cyfreithlon yn gallu bod. Mae lleihau meintiau poteli, felly, yn un ffordd i gadw prisiau diodydd yn deniadol i gwsmeriaid. Gwelwyd yr un peth yn digwydd yn yr Alban, lle mae isafbris am alcohol ers 2018.

Dywedodd Andrew Misell:

“Mae poteli 3-litr a 2.5-litr o seidr cryf i’w gweld yn diflannu o silffoedd siopau Cymru am fod yr isafbris yn eu gwneud yn rhy ddrud. Yn eu lle, gwelson ni boteli 2-litr ac 1-litr a chaniau hanner litr.

“Ym mhrofiad gweithwyr cymorth ar lawr gwlad, pan fydd yfwyr trwm yn gorfod prynu eu halcohol mewn poteli a chaniau llai, maen nhw’n tueddu i yfed llai. Mae yfed fesul symiau llai fel hyn yn rhoi mwy o gamau yn y broses yfed. Ar ddiwedd pob potel neu gan, mae’r yfwr yn gorfod penderfynu ydyn nhw wir eisiau un arall. Dyw hynny ddim yn digwydd i’r un graddau gyda photelaid fawr 3-litr. Yn yr un modd, mae darnio’r broses yfed yn y fath fodd yn cynnig cyfleoedd i weithwyr cymorth nesáu at yfwyr, siarad â nhw a’u helpu i reoli faint maen nhw’n ei yfed.”

Mae’r arolwg hefyd yn dangos sut mae’r pandemig a’r cyfnod cloi wedi effeithio ar batrymau yfed Cymru. Dywedodd mwy hanner y bobl a holwyd fod eu harferion yfed wedi newid yn ystod y chwe mis diwethaf. Mae 29% yn yfed mwy nag o’r blaen, a 23% yn yfed llai. Soniodd llawer am bryder ac iselder fel rhesymau dros yfed mwy. Ar y llaw arall, dywedodd llawer o bobl eraill eu bod yn yfed llai er mwyn gwarchod eu hiechyd.

Diwedd.