Allwch chi ddim rheoli faint o alcohol mae aelodau o’ch teulu yn ei yfed (ac nid chi sy’n gyfrifol am hynny) ond gallwch chi gael cymorth i chi a gweddill y teulu, gan gynnwys y person sy’n yfed, o bosib.
Cofiwch na allwch chi reoli faint mae rhywun arall yn ei yfed – bydd ganddyn nhw eu rhesymau eu hunain dros yfed, ac nid eich bai chi ydyn nhw. Nid chi yw’r rheswm maen nhw’n yfed, a dyletswydd eich rhiant yw bod yn gyfrifol am eu hymddygiad yfed ei hun a cheisio cymorth proffesiynol.
Mae byw gyda rhiant neu ofalwr sy’n ddibynnol ar alcohol yn gallu gwneud i chi deimlo’n bryderus, yn unig, yn drist ac yn ddig, a hyd yn oed wneud i chi deimlo cywilydd. Efallai byddwch chi hefyd yn teimlo’n rhwystredig os byddan nhw’n addo rhoi’r gorau i yfed ac yna’n methu. Efallai na fyddwch chi’n cael y cymorth na’r gofal gan eich rhiant sydd ei angen arnoch. Mae’r teimladau hyn yn hollol normal, ac mae eich teimladau chi yn bwysig.
Mae mae llawer o filoedd o blant byw mewn gydag oedolyn sy’n ddibynnol ar alcohol ac sydd angen triniaeth arbenigol.
Mae’n bosibl bod eich rhiant neu’ch ofalwr fod yn yfed gormod: