Rhieni sy’n yfed gormod

English | Cymraeg

Mae byw gyda rhiant neu ofalwr sy’n ddibynnol ar alcohol yn anodd iawn i blentyn.

Gall gael effaith ddifrifol ar ei fywyd bob dydd, ei hunan-barch, ei iechyd meddwl a’i les hirdymor. Ond gyda’r cymorth cywir, gall bywyd teuluol wella.

Sut y gall faint o alcohol y mae rhiant yn ei yfed effeithio ar blentyn?

Mae plant yn dueddol o ddod yn ymwybodol o oedran cynnar am gamddefnyddio alcohol gan eu rhieni. Er bod rhai rhieni yn ceisio cuddio’r ffaith eu bod yn camddefnyddio alcohol oddi wrth eu plant, mae plant yn aml yn dod yn fwy ymwybodol o faint mae eu rhieni yn ei yfed yn gynt nag y mae eu rhieni yn sylweddoli, er nad ydynt efallai yn ei ddeall yn llawn.

O gymharu â phlant eraill, mae plant i rieni sy’n ddibynnol ar alcohol:

  • ddwywaith yn fwy tebygol o wynebu anawsterau yn yr ysgol
  • tair gwaith yn fwy tebygol o ystyried hunanladdiad
  • pedair gwaith yn fwy tebygol o ddod yn yfwyr dibynnol eu hunain
  • pum gwaith yn fwy tebygol o ddatblygu anhwylderau bwyta

Lleihau’r niwed

Mae’n debyg bod plant i rieni sydd â phroblemau yfed yn wynebu llai o risg os ydynt yn dod o deuluoedd lle mae llawer o gymorth teuluol ar gael (gan aelodau eraill y teulu a/neu ffrindiau a chymdogion); lle mae un rhiant nad yw’n yfed ac sy’n gallu lleddfu effeithiau negyddol y rhiant sydd â phroblem yfed; a lle mae sefydlogrwydd, er enghraifft incwm rheolaidd i’r cartref.

Mae tystiolaeth yn dangos bod gwydnwch yn bwysig er mwyn helpu plant i ymdopi â rhiant sy’n yfed gormod. Gwydnwch yw gallu plentyn i addasu i straen a gofid. Gallwch helpu plentyn i ddatblygu gwydnwch mewn nifer o ffyrdd, er enghraifft drwy ei annog i gymryd rhan mewn gweithgareddau y tu allan i gartref y teulu.

Sut byddwch yn gwybod a oes gennych chi neu rywun rydych yn ei adnabod broblem gydag alcohol?

Os ydych yn poeni am faint rydych chi neu rywun rydych yn ei adnabod yn ei yfed, dylech siarad â rhywun amdano. Gallai eich meddyg teulu, neu’r sefydliadau a restrir isod fod yn fan cychwyn i chi. Gallai fod angen help ar unigolyn:

  • os na all reoli faint mae’n ei yfed
  • os yw ei ymddygiad yn newid oherwydd ei fod yn yfed
  • os yw’r yfed yn achosi problemau yn ei fywyd bob dydd

Os ydych yn rhiant sydd â phroblem alcohol:

  • Byddwch yn onest. Siaradwch yn agored â’ch plant am eich problemau alcohol. Yn aml, gall plant sylwi bod rhywbeth o’i le, hyd yn oed os byddwch yn gwadu hynny
  • Dylech osgoi rhoi pwysau ar eich plant i gymryd ochr mewn gwrthdaro teuluol, a dylech osgoi rhoi plentyn hŷn i ofalu am y plant eraill a’r tŷ yn eich lle chi
  • Helpwch eich plant i ffynnu. Ceisiwch annog eich plant i gymryd rhan mewn gweithgareddau y tu allan i’r cartref, fel clybiau chwaraeon a grwpiau ieuenctid, a fydd yn gwella eu hannibyniaeth a’u gwydnwch
  • Ceisiwch gymorth. Cofiwch mai’r peth gorau i chi a’ch plant yw mynd i’r afael â’ch yfed. Mae cymorth cyfrinachol ar gael i chi (gweler isod)

Os ydych yn blentyn sy’n byw gyda rhiant neu ofalwr sy’n yfed gormod:

  • Ceisiwch gymorth. Os ydych yn credu bod eich rhiant, gofalwr neu unrhyw un arall a ddylai fod yn gofalu amdanoch wedi datblygu problem alcohol, mae cymorth cyfrinachol ar gael i chi (gweler isod)
  • Cofiwch na allwch reoli faint mae eich rhiant yn ei yfed. Nid chi yw’r rheswm maen nhw’n yfed, a chyfrifoldeb eich rhiant yw faint y maen nhw’n ei yfed
  • Darllenwch fwy yn ein taflen ffeithiau, Rwy’n credu bod fy rhiant yn yfed gormod

Os ydych yn aelod o’r teulu sy’n ceisio cymorth:

  • Cofiwch nad ydych ar eich pen eich hun. Mae faint mae aelod o’r teulu yn ei yfed yn effeithio ar filoedd o bobl ledled y wlad
  • Ceisiwch gymorth. Cysylltwch ag un o’r grwpiau cymorth a restrir isod: byddant yn deall eich anghenion ac yn eich helpu i gael y cymorth rydych yn ei haeddu
  • Os yw’n bosibl, dylech helpu i gefnogi plant y rhiant a/neu eu cyfeirio at sefydliadau a all wneud hynny
  • Cofiwch fod newid yn bosibl. Ni allwch chi reoli faint mae aelodau o’ch teulu yn ei yfed (ac nid chi sy’n gyfrifol am hynny) ond gallwch ddechrau proses o newid

Cymorth bellach

  • Os ydych yn credu eich bod chi neu rywun rydych yn ei adnabod yn yfed gormod, cysylltwch â Dan24/7 (Cymru) ar 0808 808 2234 neu Drinkline (Lloegr) ar 0300 123 1110
  • Mae gan y Gymdeithas Genedlaethol i Blant Alcoholigion lawer o wybodaeth i blant (a’u rhieni) ar ei gwefan. Ewch i nacoa.org.uk neu ffoniwch 0800 358 3456
  • Mae grwpiau teuluoedd Al-Anon yn rhoi cymorth i unrhyw sy’n byw gydag effeithiau arferion yfed rhywun arall, neu wedi cael y fath brofiad o’r blaen, p’un a yw’r person arall hwnnw yn dal i yfed ai peidio. Ewch at al-anon-uk.org.uk
  • Gallwch ddod o hyd i ragor o wasanaethau cymorth drwy Adfam. Ewch i adfam.org.uk

Mae’r cyngor hwn wedi cael ei addasu o wybodaeth gan y Gymdeithas Genedlaethol i Blant Alcoholigion.