Gofalu am rywun sydd â phroblem alcohol neu gyffuriau ac sy’n ddifrifol wael

English | Cymraeg

Mae llawer o bobl yn byw gyda rhyw fath o broblem ag alcohol neu gyffuriau, ac mae nifer fawr o deuluoedd yn cynnwys un person o leiaf sy’n mynd trwy’r fath brofiad.

Gwybodaeth i deuluoedd

Cyflwyniad

Nid y person sy’n goryfed neu’n defnyddio cyffuriau yw’r unig un sy’n dioddef chwaith. Mae’n pwyso’n drwm ar weddill y teulu hefyd. Yn aml, mae teuluoedd yn gwneud eu gorau I ysgwyddo’r baich heb droi at neb arall.

Efallai eu bod nhw’n ansicr sut i gael help, neu’n teimlo cywilydd. Neu efallai iddyn nhw gael profiad gwael wrth geisio cymorth o’r blaen. Os ydych chi’n aelod o deulu sy’n gofalu am rywun sydd â phroblem alcohol neu gyffuriau ac sy’n ddifrifol wael, ysgrifennon ni’n daflen yma i chi.

Mae llawer math o deuluoedd

Rydyn ni’n defnyddio’r gair “teulu” yn y daflen yma, ond mae hynny’n cynnwys mwy na phobl sy’n briod neu’n perthyn trwy waed. Mae llawer math o deuluoedd. Does gan rai pobl ddim teulu yn y ffordd draddodiadol ond mae ganddyn nhw ffrindiau agos neu gynhalwyr/gofalwyr sydd fel teulu iddyn nhw. Mae rhai gweithwyr yn agos iawn at y bobl maen nhw gofalu amdanyn nhw, yn enwedig os buon nhw’n gwneud hynny am amser hir, a bron â bod yn deulu iddyn nhw. Mae’r daflen yma ar gyfer unrhyw un sy’n cefnogi rhywun sy’n agos atyn nhw.

Gwybodaeth bwysig

Rydyn ni am i chi wybod:

  1. Nid chi yw’r unig un. Mae cannoedd o filoedd o deuluoedd ym Mhrydain mewn sefyllfa debyg iawn i chi, a does dim cywilydd gofalu am rywun sydd â phroblem alcohol neu gyffuriau.
  2. Mae pawb yn haeddu gofal iechyd da. Efallai byddwch chi’n wynebu agweddau negyddol gan rai pobl – gan rai gweithwyr gofal iechyd neu ofal cymdeithasol hyd yn oed – ac efallai bydd rhaid i chi fod yn barod i herio rhai sydd ddim i’w gweld yn trin eich anwylyn yn barchus. Mae rhai yn dal i gredu nad ydy pobl sy’n defnyddio alcohol neu gyffuriau yn haeddu gofal iechyd oherwydd eu bod nhw’n “dewis” niweidio eu hiechyd. Ond does neb yn dewis mynd yn gaeth i alcohol neu gyffuriau, ac mae pawb yn haeddu gofal iechyd da.
  3. Beth bynnag mae’ch anwylyn yn ei ddweud, os ydy’r ffordd maen nhw’n defnyddio alcohol neu gyffuriau yn broblem i chi, yna mae’n broblem rydych chi’n haeddu cymorth i’w datrys. Yn aml, bydd pobl yn datblygu problem ag alcohol neu gyffuriau pan fydd ganddyn nhw deimladau poenus neu anodd dydyn nhw ddim yn gwybod sut i’w trin. Efallai byddan nhw’n dweud (ac yn credu) eu bod nhw “mwynhau” yfed neu gymryd cyffuriau. Ond mae dibynnu ar sylweddau fel hyn, nes eu bod yn niweidio agweddau arall ar fywyd, yn arwydd nad ydy rhywun yn ymdopi’n dda. A hyd yn oed os na allan nhw weld y niwed, mae’n bosibl bod eu hymddygiad yn achosi problemau iechyd corff a meddwl a straen emosiynol i chi ac aelodau eraill o’r teulu, yn ogystal â phryderon ariannol, a hyd oed problemau alcohol a chyffuriau i chi wrth i chi geisio i ymdopi. Mae’n hollbwysig i chi gael cymorth i chi eich hun. Mae hefyd debyg o helpu eich anwylyn i wella.
  4. Mae llawer o bobl gyda phroblemau alcohol neu gyffuriau yn gwella’n dda. Yn anffodus, nid pob un. Mae defnyddio alcohol neu gyffuriau am amser hir yn gallu bod yn niweidiol iawn i’r corff, ac weithiau’n farwol. Hyd yn oed os bydd rhywun yn mynd yn sâl iawn o ganlyniad i yfed neu gymryd cyffuriau, mae’n bosibl byddan nhw’n dal i’w wneud. Mae gofalu am rywun sy’n defnyddio alcohol neu gyffuriau yn gallu bod yn anodd a blinderus. Mae’n bosibl bydd arnoch chi angen cymorth gan nifer o bobl sy’n arbenigo ar ofal iechyd, alcohol a chyffuriau, a gofal lliniarol, yn enwedig os daw hi’n amlwg fod eich anwylyn yn tynnu at ddiwedd eu bywyd.
  5. Os na chewch chi’r cymorth iawn ar eich cynnig cyntaf, daliwch ati a thrïwch opsiynau eraill. Rydyn ni wedi rhestru yn y daflen yma rhai o’r gwasanaethau gallwch chi droi atyn nhw.

Pam mae’n bwysig i deuluoedd gael cymorth

Mae’n bosibl byddwch chi’n teimlo straen mawr wrth geisio gofalu am anwylyn sydd â phroblem alcohol neu gyffuriau. Weithiau bydd hynny oherwydd eu bod nhw’n mynnu nad oes ganddyn nhw broblem. Neu oherwydd fel maen nhw’n ymddwyn: yn anystywallt, anodd eu rhagweld, neu’n anonest. Neu oherwydd bod gofalu amdanyn nhw, diwrnod ar ôl diwrnod, yn eich gadael yn flinedig a phryderus. Efallai byddwch chi’n ansicr ydych chi’n gwneud y peth gorau, neu’n methu meddwl beth ydy’r peth gorau i’w wneud.

Mae rhai teuluoedd yn colli cyswllt â pobl eraill. Efallai byddan nhw’n teimlo bod pobl eraill yn eu barnu, neu’n teimlo cywilydd am eu hanwylyn ac eisiau cadw’r cyfan yn gyfrinach. Wrth i’r amser basio, mae teuluoedd yn dod i arfer ag addasu eu bywyd o gwmpas ymddygiad eu hanwylyn, ac mae hynny’n gallu gwneud eu byd yn llai fyth. Ac os bydd iechyd eu hanwylyn yn gwaethygu, gallan nhw weld eu cyfrifoldebau gofal yn pentyrru’n fwy fyth.

Byddwch chi, a phawb arall sy’n cefnogi eich anwylyn, yn gweithio’n galed i’w cadw nhw’n fyw ac yn iach. Ond rhaid peidio ag anwybyddu’r ffaith fod defnyddio alcohol neu gyffuriau am amser hir yn gallu achosi niwed mawr i’r corff, ac arwain at farw’n gynnar. Bob blwyddyn, mae miloedd o deuluoedd ym Mhrydain yn colli anwylyn i broblem alcohol neu gyffuriau. Mae pob marwolaeth yn anodd, ond pan mai alcohol neu gyffuriau yw’r achos, mae’n arbennig o anodd ac yn gallu effeithio ar y teulu am amser hir. Yn aml, mae pobl sydd wedi colli anwylyn yn y fath fodd yn teimlo nad ydy gwasanaethau galar arferol yn deall eu hanghenion, gan nad ydyn nhw’n deall y poen ychwanegol sy’n dod o garu rhywun sydd â problem alcohol neu gyffuriau.

Yn y tabl yma, rydyn ni wedi rhoi nifer o enghreifftiau o’r mathau o gymorth allai fod yn ddefnyddiol I chi os ydych chi’n gofalu am rywun sydd â phroblem alcohol neu gyffuriau sydd mewn iechyd gwael – yn enwedig os ydyn nhw’n tynnu at ddiwedd eu bywyd.

Mathau o gymorth a chyngor allai eich helpu

I chi a’ch anwylynI chi ac aelodau eraill eich teulu
Gofal iechyd
  • Cyngor ar eu hiechyd a sut mae’n debygol o newid.
  • Triniaeth feddygol/gofal nyrsio sy’n addasu at eu hanghenion.
  • Cymorth i gynllunio at y newidiadau sy’n debygol o ddod yn eu hanghenion gofal.
  • Cyngor ar sut gallwch chi helpu cwrdd ag anghenion meddygol eich anwylyn, pa symptomau i wylio amdanyn nhw, a pha newidiadau gallwch chi eu disgwyl o ran eu hanghenion.
  • Cynllunio seibiannau i chi oddi wrth ofalu.
Cymorth ymarferol
  • Addasu’r tŷ, er enghraifft er mwyn hwyluso i’ch anwylyn ddefnyddio’r gegin neu’r stafell ymolchi.
  • Rheoli arian.
  • Trefnu rota gofal.
  • Trefnu angladd pan ddaw’r amser
  • Cyngor ar ba gymorth a chefnogaeth sydd ar gael i chi ynglŷn â phroblemau ymarferol.
Cymorth
emosiynol/ysbrydol
  • Cefnogaeth i dderbyn mynd yn salach a marw.
  • Cymorth i wynebu ofnau a gofidiau.
  • Cymorth i gymodi â’r teulu a ffrindiau (yn enwedig lle mae anghydfod wedi bod).
  • Amser i drafod beth sy’n ystyrlon iddyn nhw a beth sy’n bwysig iddyn nhw ym misoedd olaf eu bywyd.
  • Cefnogaeth emosiynol barhaol i chi ac aelodau eraill y teulu/ffrindiau, gan gynnwys cefnogaeth i chi dderbyn bod eich anwylyn yn marw.
  • Cymorth ar ôl iddyn nhw farw, sy’n cydnabod poen arbennig colli anwylyn trwy alcohol neu gyffuriau.

Sut mae cymorth proffesiynol yn gallu helpu

Dyma esiampl fach rydyn ni wedi’i thynnu o’n gwaith ni. Mae’n dangos sut mae’n bosibl gwneud y gorau o amgylchiadau anodd iawn a sicrhau bod rhywun gyda phroblem alcohol neu gyffuriau yn cael eu trin ag urddas a’u cefnogi i farw yn y ffordd orau bosibl.

Stori o lawr gwlad

Roedd gŵr Clare, Bill, yn yfed yn gymdeithasol. Ar ôl colli rhywun agos ato, dechreuodd e fesul tipyn yfed yn drymach, colli diddordeb yn ei fusnes a threulio pob noson yn y dafarn. Dechreuodd e fynd yn fyr ei wynt, a gwelodd meddyg fod gwythiennau ei galon yn culhau. Ceisiodd Clare a’r plant ei berswadio i yfed llai ond heb lwyddiant, er bod Bill yn cydnabod ei fod yn niweidio ei iechyd a’i berthynas â’i deulu. Cafodd e le mewn gwasanaeth triniaeth alcohol lleol, ond ar ôl mynd i sesiwn neu ddwy penderfynodd nad oedd yn iawn iddo fe.

Roedd symptomau Bill yn gwaethygu’n raddol. Cafodd ddiagnosis o ddiabetes a sawl haint yn ei waed. Aeth e i mewn i’r ysbyty ond dewis dod adref. Pryd hynny, dwedodd y doctor wrtho nad oedd ganddo fe fwy na blwyddyn i fyw, yn ôl pob tebyg. Roedd Bill yn yfed yn drwm am y deg diwrnod nesaf cyn llewygu. Galwodd y doctor y teulu ynghyd i ddweud wrthyn nhw nad oedd gan Bill fwy na chwe mis i fyw gan fod ei afu a’i arennau yn methu.

Y diwrnod nesaf, daeth y tîm gofal lliniarol i’r tŷ gyda gwely ysbyty ac offer eraill, a dechreuodd nyrsys neu ofalwyr ymweld bob wythnos. Gwnaethon nhw gynllun gofal manwl, gan ddefnyddio ffeil i nodi anghenion corfforol Bill, ei foddion, penderfyniadau am ei ofal, a’I ddymuniadau am ddiwedd ei fywyd. Trefnon nhw addasiadau i’r tŷ (canllawiau, rampiau a thaclau codi). Roedden nhw hefyd yn rhoi gofal a chefnogaeth emosiynol i Clare, gan eu ffonio hi bob ychydig ddyddiau i weld sut roedd hi. Dyma ddisgrifiad Clare o’i bywyd ar y pryd: “Roeddwn i’n gofalu trwy’r amser. Roedd hi’n llethol”. Disgrifiodd hi hefyd mor helpfawr oedd y nyrsys gofal lliniarol:

“Bydden nhw’n cerdded trwy’r drws a byddwn i’n dechrau wylo’n hidl, a bydden nhw’n dweud, ‘Iawn ’te, dere ’mlaen, paned o de! Awn ni i mewn fan hyn’. Gwelon nhw Bill a dweud, ‘Iawn, mae fe’n iawn. Dere ’mlaen, caewn ni’r drws a cael cwpaned o de. Beth sy’n bod?’. Wedyn byddwn i’n dweud, ‘Mae e wedi ’nghadw fi’n effro trwy’r nos. Mae fe’n gwneud hyn a’r llall. Mae e wedi ei faeddu’i hunan’. A bydden nhw’n dweud, ‘Paid ti â phoeni am hynny. Fe sortiwn ni bethau i ti’. A byddwn i’n teimlo’n euog oherwydd ’mod i’n meddwl, ‘Dyna chi’n dod i helpu Bill a dyma fi’n llanastr llwyr a chithau’n gorfod sortio pethau i fi a gwneud te i fi’.”

Buodd Bill farw gartref. Er bod ei golli’n anodd, mae Clare yn cydnabod mor werthfawr oedd deall ei fod e’n marw a chael gwneud y gorau o’i fisoedd olaf:

“Roedd gyda fi amser ffarwelio â fe. Ydych chi’n deall beth dwi’n feddwl? Roeddwn i’n gwybod fod hyn yn dod a fe wnaethon ni’n siŵr bod ni’n creu atgofion da. Mae gyda ni fideos a lluniau. Gwnaethon ni’n siŵr i ni wneud popeth yn yr amser oedd ar ôl, ac roedd hynny wir yn helpu.”

Ble i gael cymorth i chi a’ch anwylyn

Alcohol Change UK yn gweithio i leihau’r niwed difrifol mae alcohol yn ei achosi. Mae eu gwefan yn cynnwys gwybodaeth a chyngor am reoli faint rydych chi’n ei yfed, a hefyd gwybodaeth am ble mae teuluoedd pobl sy’n goryfed yn gallu cael cymorth iddyn nhw eu hunain ac i’r sawl sy’n goryfed.

Gwefan: alcoholchange.org.uk

E-bost: [email protected]

Mae Alcoholics Anonymous yn gymdeithas o bobl oedd ar un adeg un goryfed, sy’n cydnabod na allen nhw ymdopi ag alcohol, ac sydd bellach yn ceisio byw mewn ffordd newydd heb alcohol. Maen nhw’n cynnal grwpiau cymorth lleol led-led y wlad ac ar-lein.

Gwefan: alcoholics-anonymous.org.uk

Llinell gymorth: 0800 9177 650

E-bost: [email protected]

Cymdeithas yw Narcotics Anonymous o bobl mae cyffuriau wedi dod yn broblem fawr iddyn nhw, ac sy’n cwrdd yn gyson i helpu ei gilydd i fyw heb gyffuriau.

Gwefan: ukna.org

Llinell gymorth: 0300 999 1212

Gwybodaeth am gyrddau lleol: [email protected]

Mae SMART Recovery UK yn helpu pobl i wella o ymddygiad caethiwus a byw bywydau llawn a boddhaol. Mae eu gwaith yn seciwlar ac wedi’u seilio ar wyddoniaeth, gan ddefnyddio dulliau ysgogiadol, ymddygiadol, a gwybyddol. Maen nhw’n cynnal rhwydwaith o gyrddau hunan-gymorth.

Gwefan: smartrecovery.org.uk

Ymholiadau: 0330 053 6022

Mae’r British Liver Trust yn codi ymwybyddiaeth ynghylch clefyd yr afu, ac yn rhoi gwybodaeth a chymorth i’r rhai sy’n byw gyda fe. Maen nhw hefyd yn ymgyrchu dros ganfod clefyd yr afu yn gynnar a’i drin yn well.

Gwefan: britishlivertrust.org.uk

Llinell gymorth: 0800 652 7330

E-bost: [email protected]

Mae Adfam yn gweithio i wella’r gefnogaeth I deuluoedd sy’n byw gydag effeithiau cyffuriau ac alcohol. Mae eu gwefan yn cynnwys fideos sy’n esbonio sut mae teuluoedd yn gallu deall mwy am alcohol a chyffuriau a dysgu sgiliau i’w helpu nhw i ymdopi, a hefyd rhestr o grwpiau cefnogi teuluoedd led-led Prydain.

Gwefan: adfam.org.uk

E-bost: [email protected]

Mae Grwpiau Teuluol Al-Anon yn cynnig cefnogaeth i unrhyw un sy’n byw, neu wedi byw, gydag effeithiau yfed gan rywun arall, os yw’r person yna yn dal i yfed neu beidio. Maen nhw’n deall fod y clwyfau’n ddwfn o hyd ym mywydau rhai pobl, hyd yn oed os nad ydy eu hanwylyn yn rhan o’u bywyd mwyach, neu wedi marw.

Gwefan: al-anonuk.org.uk

Llinell gymorth: 0800 0086 811

E-bost: [email protected]

Mae DrugFAM yn cefnogi pawb sy’n byw gyda effeithiau goryfed, cymryd cyffuriau neu gamblo gormodol gan rywun arall, neu sydd wedi colli rhywun yn y fath fodd, gan gynnwys teuluoedd, ffrindiau a chydweithwyr. Trwy eu gwasanaethau, maen nhw’n ceisio nerthu pobl i dorri’n rhydd o’r cylch caethiwed, a rhoi eu bywydau yn ôl at ei gilydd.

Gwefan: drugfam.co.uk

Llinell gymorth: 0300 888 3853, ar agor 9am tan 9pm, bob dydd o’r flwyddyn

E-bost: [email protected]

Mae SMART Recovery i Deuluoedd a Ffrindiau (F&F) yn cynnig rhwydwaith o gyrddau cefnogaeth i bobl sy’n byw gydag effeithiau ymddygiad caethiwus

rhywun sy’n agos atyn nhw. Yn hytrach na canolbwyntio ar yr anwylyn, mae’r rhaglen F&F yn gwahodd pobl i ganolbwyntio arnyn nhw eu hunain a’u hamcanion. Mae hynny’n cynnwys meddwl am sut maen nhw’n ymateb i’w hanwylyn ac os yw’n helpfawr neu beidio.

Gwefan: smartrecovery.org.uk/smart_family__friends/

Gofal diwedd oes

Cynghrair o aelodau ar draws Cymru a Lloegr yw Dying Matters, sy’n ceisio helpu pobl i siarad yn fwy agored am farw a galar, ac i baratoi at ddiwedd bywyd. Ar eu gwefan mae rhestr fwyaf cynhwysfawr y wlad o wasanaethau i bobl ym mlynyddoedd olaf eu bywyd, ac i’w teuluoedd, gofalwyr a ffrindiau. Maen nhw’n gweithio yng Nghymru o dan yr new Compassionate Cymru.

Gwefannau: dyingmatters.org a compassionate.cymru

Marie Curie yw prif elusen Prydain ar gyfer diwedd oes. Maen nhw’n darparu gofal nyrsio a gofal hosbis, llinell gymorth ddi-dâl a llwyth o wybodaeth a chymorth ar bob agwedd ar farwolaeth a galar.

Gwefan: mariecurie.org.uk

Llinell gymorth: 0800 090 2309

Elusen genedlaethol yw Hospice UK sy’n gweithio dros bobl sy’n wynebu marwolaeth neu alar. Maen nhw’n gweithio i wella safon gofal lliniarol a gofal diwedd oes ac i annog gwasanaethau i gydweithio. Mae eu gwefan yn cynnwys gwasanaeth dod o hyd i hosbis.

Gwefan: hospiceuk.org

Mae Cymorth Canser Macmillan yn darparu cymorth ymarferol, meddygol ac ariannol i bobl sy’n byw gyda chanser, gan gynnwys ble i gael cymorth ymarferol ac emosiynol tuag at ddiwedd bywyd.

Gwefan: macmillan.org.uk

Llinell gymorth: 0808 808 0000

Mae Cruse yn rhoi cymorth i bobl ar ôl i rywun agos atyn nhw farw. Cynnig cefnogaeth, cyngor a gwybodaeth i blant pobl ifanc ac oedolion pan fydd rhywun yn marw yw eu nod, fel bydd gan bawb sy’n galaru rywle i droi.

Gwefan: cruse.org.uk

Llinell gymorth: 0808 808 1677

Author: Dr Sam Wright, Manchester Metropolitan University

Supported by Adfam and Alcohol Change UK, and funded by the National Institute for Health Research

Llwythwch i lawr pdf

Gwybodaeth i deuluoedd

Gofalu am rywun sydd â phroblem alcohol neu gyffuriau ac sy’n ddifrifol wael

Llwythwch i lawr pdf (9.44Mb)