Cadw to dros ben pobl fregus sy’n ddibynnol ar alcohol

English | Cymraeg

Jane Gardiner, Director of Consultancy and Training | November 2025 | 10 minutes

Ledled y deyrnas, mae pobl fregus sy’n ddibynnol ar alcohol yn wynebu llu o rwystrau rhag cael cartref addas a’i gadw.

Bydd llawer un yn cwympo rhwng dy stôl, am fod arnyn nhw angen mwy o gymorth nag sydd ar gael mewn rhai mannau, ond heb fod yn ddigon anghenus i gwrdd â’r meini prawf mewn mannau eraill. Bydd rhai yn symud yn ddiamcan rhwng ysbytai, hosteli a llety dros dro, heb braidd dim sefydlogrwydd. Mae’n sefyllfa sy’n wael i bawb, gan danseilio iechyd, creu stigma, a chreu gwaith ychwanegol i wasanaethau cymorth.

Mae Alcohol Change UK yn cydweithio â’n partneriaid lleol i newid hyn, mewn ffyrdd ymarferol, ac ar sail tystiolaeth gadarn.

Adeiladu ar sylfaen y Dull Golau Glas

Mae ein Dull Golau Glas ni yn ffordd i gyrraedd y rhai sy’n cael eu hystyried yn ‘anodd eu cyrraedd’ neu’n ‘amharod i newid’. Mae’n herio’r fath ddisgrifiadau o bobl, gan ddangos bod modd iddyn nhw weddnewid eu bywydau os cân nhw’r cymorth priodol.

Ac rydym ni wedi cymhwyso egwyddorion y Dull Golau Glas er mwyn sicrhau bod mwy o bobl yn gallu cadw to dros eu pennau.

Buom ni’n gweithio gyda 29 o awdurdodau lleol, arbenigwyr cenedlaethol, a phobl gyda phrofiad personol, i lunio dau adroddiad newydd. Gyda’i gilydd, mae’r ddwy ddogfen yn dangos sut i sicrhau gwell llety i bobl fregus sy’n ddibynnol ar alcohol, gan gynnig model ymarferol y gellir ei addasu at sefyllfa pob bro.

Dau adroddiad gydag un amcan

  • Y Llawlyfr Llety Golau Glas – Rhan Un: Prif adroddiad a chanllawiau gwybodaeth. Comisiynwyr, prif swyddogion tai, a rheolwyr gwasanaethau yw cynulleidfa’r adroddiad yma. Mae’n gosod fframwaith clir ar gyfer newid, a Theclyn Archwilio Cynlluniau Gwella er mwyn helpu partneriaethau i ddeall anghenion lleol, datguddio diffygion, a chynllunio system tai fwy effeithiol.
  • Y Llawlyfr Llety Golau Glas – Rhan Dau: Deddfau, budd-daliadau, a canllawiau cenedlaethol. Mae’r gyfrol yma ar gyfer ymarferwyr ar lawr gwlad. Mae’n esbonio sut mae modd defnyddio ddeddfau tai a’r system budd-daliadau i gefnogi pobl sy’n ddibynnol ar alcohol i gael llety a’i gadw. Mae’n cynnwys enghreifftiau ymarferol a chyngor ar sut i herio penderfyniadau annheg.

Gyda’i gilydd, mae’r ddwy ddogfen yn dangos y cyfeiriad strategol a’r camau ymarferol tuag at welliannau sylweddol.

System dan straen

Mae rhyw 650,000 o bobl sy’n ddibynnol ar alcohol yng Nghymru a Lloegr. Mae tua 70,000 ohonyn nhw’n ddigartref neu mewn perygl o golli eu cartref yn fuan.

Ac oherwydd eu hanghenion cymhleth, byddan nhw yn aml yn cwympo rhwng gwasanaethau. Er eu bod yn amlwg iawn pan fyddan nhw mewn argyfwng, anweladwy ydyn nhw yn y broses gynllunio gwasanaethau. Bydd darparwyr llawer math o lety yn disgwyl i denantiaid ymwrthod â’r ddiod neu yfed yn ddoeth, gan gau eu drysau ar bobl sy’n yfed yn drwm oherwydd dibyniaeth.

Heb lety sefydlog, anodd ar y naw yw symud tuag at wellhad. Heb gymorth priodol, anodd yw i rywun sy’n ddibynnol ar alcohol gynnal tenantiaeth, gan eu gadael yn baglu rhwng y naill argyfwng a’r nesaf.

Beth yw’r ffeithiau?

Mae’r ddarpariaeth yn dyllog. Prin iawn yw’r opsiynau llety yng ngwledydd Prydain lle gall rhywun yfed ar lefel ddibynnol gyda goruchwyliaeth briodol.

Mae stigma’n cadw’r drws ar gau. Bydd ymddygiad blaenorol rhywun, y gred eu bod yn ‘dewis’ diota, a rheolau anhyblyg, i gyd yn cadw pobl rhag cael llety.

Mae modd achub y blaen ar broblemau. Trwy gynnig cymorth yn gynnar, gallwn ni gadw pobl rhag gadael eu llety neu gael eu troi allan ohono. Bydd staff medrus sy’n defnyddio dulliau hyblyg, a lleoliadau sy’n ystyriol o seicoleg, yn gwneud gwahaniaeth mawr.

Buddiol yw buddsoddi. Trwy gefnogi pobl i fyw yn eu llety eu hun, byddwn ni’n lleihau’r pwysau ar ysbytai a heddluoedd. Mae tystiolaeth o’r wlad hon a’r tu hwnt yn dangos bod modd arbed arian yn ogystal ag achub bywydau.

Creu cysylltiadau

Un neges glir o’r gwaith yma yw mai system yw llety, nid lleoliad.

Mae anghenion pobl yn newid dros amser, felly ni fydd un ffurf ar lety’n gweithio i bawb am byth. Mae ar bob bro angen system sy’n cefnogi pobl ar bob cam – cyn cael llety, wrth letya, ac wedyn. Felly, bydd angen:

  • Rhaglenni Tai yn Gyntaf
  • Rhaglenni Rheoli Alcohol (MAPs)
  • Cartrefi gofal arbenigol i bobl gyda niwed alcohol i’r ymennydd
  • Llochesi i ferched, sy’n derbyn y rhai sy’n yfed alcohol
  • Staff medrus sy’n gallu gweithio’n hyderus gyda’r garfan yma

Mae’r adroddiad yn dangos y camau ymarferol tuag at adeiladu system o’r fath – o gasglu data lleol a mapio darpariaeth, i lunio strategaethau ar y cyd a chynllunio gwariant.

Deall y deddfau a budd-daliadau

Pur gymhleth yw’r system tai a budd-daliadau.

Mae ein canllaw ni i Ddeddfau a Budd-daliadau yn esbonio sut mae defnyddio’r gyfraith i ddiogelu pobl sy’n fregus oherwydd alcohol, afiechyd meddwl neu drawma. Mae’n ymdrin ag angen blaenoriaethol, digartrefedd bwriadol, cam-drin domestig, gadael yr ysbyty, a budd-daliadau pwysig fel Credyd Cynhwysol a Thaliad Annibyniaeth Personol.

Mae’n tynnu ar enghreifftiau go-iawn i ddangos sut mae’r gyfraith a’r system budd-daliad yn gweithio, gan helpu gweithwyr i ganfod ffordd trwy’r drysni a dadlau’n effeithiol dros y rhai maen nhw’n eu cefnogi.

Newid syniadau, newid ymarfer

Stigma yw un o’r prif rwystrau rhag cael cymorth. Yn rhy aml, mae pobl sy’n ddibynnol ar alcohol yn cael eu gweld yn broblem, yn lle cael eu cydnabod fel unigolion sy’n byw gydag afiechydon corff a meddwl ac anawsterau cymdeithasol.

Mae newid go-iawn yn dibynnu ar well dealltwriaeth a disgwyliadau mwy realistig o ran beth sy’n bosibl i bobl. Mae’n dibynnu ar gydnabod bod trawma, niwed i’r ymennydd, ac afiechyd meddwl yn gallu effeithio ar bob rhan o fywyd rhywun, gan gynnwys eu gallu i gadw to dros eu pen.

Trwy well dealltwriaeth cawn ni well penderfyniadau – o gomisiynu hyd at waith beunyddiol ar lawr gwlad. Mae gwasanaethau sy’n cwrdd â phobl lle maen nhw yn gallu atal argyfyngau a chefnogi pobl i wella eu sefyllfa’n sylweddol.

Cydweithio er gwell

Er mwyn diwallu anghenion llety pobl fregus sy’n ddibynnol ar alcohol, bydd rhaid wrth bartneriaethau rhwng y sectorau tai, gofal iechyd, a gofal cymdeithasol. Bydd angen ymroddiad, cydweithredu ac amynedd – ond mae’r ffordd ymlaen yn glir.

Gall partneriaethau lleol:

  • Ddefnyddio’r Teclyn Archwilio Cynlluniau Gwella er mwyn mapio anghenion lleol.
  • Dod ag arweinwyr y sectorau tai, gofal iechyd, a gofal cymdeithasol at ei gilydd.
  • Llunio strategaethau ar sail tystiolaeth er mwyn ymdrin â heriau’r byd go-iawn.
  • Buddsoddi mewn hyfforddi staff a’u cefnogi’n barhaol.
  • Herio stigma yn gyson ac yn gadarn.

Trwy weithio gyda’n gilydd, gallwn ni greu systemau llety sy’n gweithio’n well – i bobl sy’n ddibynnol ar alcohol ac i’r gwasanaethau sy’n eu cefnogi.

Darllenwch yr adroddiad (ar gael yn Saesneg yn unig)