Dydy pethau byth yn syml

English | Cymraeg

14 Hydref 2026 - 15 Hydref 2026
10:00 - 13:00
£55 +TAW am bob hanner diwrnod neu £85 +TAW am y ddau hanner diwrnod. Cysylltwch â ni am docynnau rhad i fyfyrwyr a phobl gyda phrofiad personol. Cadwch lefydd nawr

Cwrdd ag anghenion amrywiol

Seiat ddysgu ar-lein gydag Alcohol Change UK

Dros ddau hanner-diwrnod

Dydd Mercher 14 Hydref a Dydd Iau 15 Hydref 2026

Mae pobl yn wahanol i’w gilydd, ac mae’r un peth yn wir am bob brwydr ag alcohol. Ymunwch â ni ar-lein ar 14 a 15 Hydref ar gyfer ein cynhadledd flynyddol, lle byddwn ni ystyried cymhlethdod bywydau pobl, y rhan mae alcohol yn ei chwarae yn hynny, a sut gallwn ni i gyd gynnig cymorth sy’n berthnasol, effeithiol, a hawdd-ei-gael.

Mae’r siaradwyr sydd wedi’u cadarnhau’n cynnwys:

  • Charlotte Hazell-Caldwell yn trafod yr hyn mae eisiau i wasanaethau ei wybod am alcohol a thrais domestig
  • Tess Falzon, yn esbonio sut mae ei thîm hi’n cynnig cymorth i roi’r gorau i ysmygu i bobl sy’n derbyn triniaeth am alcohol a chyffuriau eraill
  • Chris Dunbar, ar sut i gynnig cymorth agored a hawdd-ei-gael i bobl LHDTC+
  • Vanessa Townsend, ar gefnogi gwellhad o niwed alcohol i’r ymennydd (ARBD)
  • Mushtaq Dakri, ar greu cysylltiadau yng nghyd-destun amrywiaeth ethnigrwydd a chrefydd.

Ac yn bwysicaf oll, byddwn ni’n clywed lleisiau profiad bywyd, gan gynnwys cyfweliad gyda Aaron Davies am wella ar ôl strôc oedd wedi’i achosi gan alcohol.

Darllenwch agenda'r ddau fore yma