Dewis a pharch

English | Cymraeg

12 Mawrth 2026
10:00 - 12.20
Ar-lein
£70 (gan gynnwys TAW a ffïoedd archebu)

Sicrhau gwell gofal diwedd-oes i bobl sy’n ddibynnol ar alcohol

Seiat ddysgu ar-lein gydag Alcohol Change UK

Dydd Iau 12 Mawrth 2026

10.00 tan 12.20

Mae pob un ohonom sy’n gweithio i gefnogi pobl sy’n byw gyda phroblemau alcohol yn rhoi pwyslais mawr ar leihau niwed a hybu gwellhad. Gwaetha’r modd, mae rhaid wynebu’r gwir weithiau nad yw rhywun yn debygol o wella, a bod eu hiechyd yn debygol o waethygu o hyd.

Dyma bwnc o’r pwys mwyaf mae rhaid i ni i gyd ei ddeall yn well, fel gallwn ni weld pan fydd rhywun yn marw, ac ymateb yn briodol; ac fel bydd mwy o bobl yn marw gydag urddas, mewn lleoliad o’u dewis, gyda’r bobl maen nhw eisiau o’u cwmpas.

Ymunwch â ni ar 12 Mawrth er mwyn dysgu mwy am sut gallwn ni i gyd ymdrin â marwolaeth yn well.

Byddwn ni’n edrych ar sut i godi cwestiynau am farw gyda chleientiaid a’u hanwyliaid; sut i baratoi’n ddigonol ar gyfer marwolaeth; a sut i reoli yfed yn ystod y cyfnod diwedd-oes.

Dyma’r siaradwyr gwadd:
  • Gill Taylor, yn trafod pam mae gofal diwedd-oes gwael yn niweidiol i bawb
  • Mary McKenna a Mark Holmes, ar ofalu am bobl sy’n marw o glefyd yr afu oherwydd alcohol
  • Gemma Yarwood, yn ystyried beth sy’n gwneud gofal diwedd-oes da i bobl sy’n defnyddio sylweddau
  • Anthony Vaughan, ar ddarparu cefnogaeth diwedd-oes mewn lletyau i bobl ddigartref
Darllenwch yr agenda llawn yma