Dwywaith y perygl

English | Cymraeg

17 Mehefin 2024
10:00 - 12:20
£45 + TAW Book now

Deall y berthynas rhwng alcohol, gamblo a niwed

Seiat ddysgu ar-lein gydag Alcohol Change UK

10:00 tan 12:20, Dydd Mawrth 17 Mehefin 2025

Buodd cryn sylw yn y blynyddoedd diwethaf i’r tebygrwydd rhwng yfed a gamblo.

Mae’r ddau ymddygiad yn dderbyniol hyd at ryw bwynt, a’r ddau hefyd yn gallu bod yn hynod beryglus. Mae’r ddau ddiwydiant yn defnyddio technoleg ddigidol i gyrraedd mwy o gwsmeriaid a gwneud eu nwyddau yn haws eu cael.

Efallai bydd adegau o yfed trwm a gamblo niweidiol yn digwydd bob yn ail ym mywyd rhywun, neu’n cyd-daro. A phan ystyriwn ni sut mae alcohol yn ein gwneud yn llai pwyllog, mae’r posibilrwydd canlyniadau gwael wrth gamblo dan ddylanwad y ddiod yn eglur.

Mae yfed a gamblo ill dau yn digwydd yn llai aml ymhlith pobl sy’n wynebu anfantais economaidd, ond mae’r niwed sy’n deillio o’r ddau yn amlycaf yn y bröydd tlotaf. Mater o anghydraddoldeb iechyd, felly, yw alcohol a hapchwarae hefyd.

Ymunwch â ni ar 17 Mehefin, pan fyddwn ni’n ystyried y berthynas gymhleth rhwng alcohol a gamblo, ac yn gofyn beth gallwn ni i gyd ei wneud i gefnogi’r rhai sy’n gweld y ddau fath o broblemau yn cyd-ddigwydd yn eu bywydau.

Y siaradwyr fydd:

  • Jodie McGarry, yn sôn am y cywilydd dwbl a lwythir ar ferched sy’n yfed a gamblo
  • Jamie Torrance (cyflwyniad wedi’i recordio) yn trafod y tir cyffredin rhwng dulliau marchnata alcohol a gamblo
  • Christopher Gilham, yn adrodd ei hanes ei hun o alcohol, gamblo, nirwroamrywiaeth a gwellhad
  • Rob Parker a Matt Losing, yn edrych ar beth mae angen i wasanaethau alcohol ei wybod am gamblo

Darllenwch yr agenda llawn yma