Ffydd, teuluoedd a gwellhad

English | Cymraeg

12 Mai 2022
10am to 11:30am
Ar-lein

Mae pob un ohonom sy’n gweithio i leihau defnyddio sylweddau’n niweidiol yn ceisio mynd ati yn y modd mwyaf gwybodus a gwyddonol. Ond gwyddom hefyd fod llawer agwedd ar fywydau pobl nad yw’n ymwneud gymaint â ffeithiau caled ond sydd yr un mor bwysig iddyn nhw.

Mae Alcohol Change UK ac Adfam yn eich gwahodd i gymryd rhan yn mewn digwyddiad ar-lein fydd yn bwrw goleuni ar bwysigrwydd ffydd ym mywydau llawer o bobl wrth iddyn nhw ymgodymu â phroblemau alcohol, cyffuriau neu gamblo.

Ein gobaith yw y bydd hon yn fan cychwyn taith gan wasanaethau triniaeth tuag at ddeall yn well bwysigrwydd ffydd ym mywydau unigolion a theuluoedd; a gan sefydliadau ffydd tuag at ddeall problemau alcohol, cyffuriau a gamblo yn well.

Bydd y digwyddiad yn dechrau gyda dau siaradwr gwadd:

  • Alison Mather, Cyfarwyddwr Gweithredu’r Crynwyr ar Alcohol a Chyffuriau (QAAD): Mae QAAD yn ceisio ymdrin ag alcohol, cyffuriau a gamblo o fewn fframwaith gwerthoedd y Crynwyr. Maen nhw’n ystyried yr agweddau ysbrydol ar ddefnyddio sylweddau a dibyniaeth, er mwyn adeiladu cadernid yn wyneb problemau cyfredol a rhai sydd ar y gorwel.
  • Iman Atta, Prif Weithredwr Faith Matters: Mae Faith Matters yn gweithio gyda chymunedau ffydd i leihau gwrthdaro a hybu cymuno a chyd-ddeall. Maen nhw wedi datblygu prosiectau i ddod â chymunedau ffydd ynghyd a chryfhau sefydliadau ffydd, gan gynnwys cryfhau sgiliau arweinwyr ffydd, gyda phwyslais ar y “gwerthoedd cyffredin sydd fel glud rhwng cymunedau”.

Wedyn bydd cyfle am drafodaeth agored, gan ystyried cwestiynau megis:

  • Pa rôl gadarnhaol sydd gan ffydd yn mywydau pobl wrth iddyn nhw ymgodymu â phroblemau alcohol, cyffuriau neu gamblo?
  • Oes gan ffydd rôl negyddol weithiau?
  • Ydy unigolion a theuluoedd yn credu bod eu cymuned ffydd yn eu cefnogi ynglŷn â phroblemau alcohol, cyffuriau neu gamblo?
  • Ydy gwasanaethau triniaeth alcohol, cyffuriau a gamblo yn deall pwysigrwydd ffydd ym mywydau pobl?
  • Beth fyddai’n gwneud gwasanaethau alcohol, cyffuriau a gamblo yn berthnasol i unigolion a theuluoedd o ffydd?

I gadw eich llefydd, cysylltwch ag Andrew Misell yn Alcohol Change UK.

Cysylltwch ag Andrew