Seiat ddysgu ar-lein gydag Alcohol Change UK
Boreau 12 a 13 Tachwedd 2025
Yn rhy aml mewn gwaith hybu iechyd, mae cred bydd yr wybodaeth a’r gefnogaeth arferol yn gwneud y tro i bawb. Un garfan fawr o bobl mae’r fath ddulliau arferol yn eu rhoi dan anfantais yw merched.
Yn ein seiat ddysgu ar-lein nesaf, mis Tachwedd yma, byddwn ni’n craffu ar y cwestiynau ynglŷn ag alcohol mae merched yn ymgodymu â nhw yng nghwrs eu bywyd, ac yn meddwl o ddifri am sut gallwn ni wneud yr wybodaeth a’r gefnogaeth sydd ar gael i ferched yn berthnasol, yn briodol, ac yn hawdd ei gyrraedd.
Clywch chi gan lu o ymchwilwyr ac ymarferwyr profiadol, gan gynnwys:
- Kate Maslin, ar syniadau a theimladau merched am yfed diodydd di-alcohol a phrin-eu-alcohol pan fyddan nhw’n feichiog
- Abi Rose, yn disgrifio ei gwaith hi gyda merched i gyd-greu dulliau lleihau niwed alcohol ar gyfer beichiogrwydd
- Amanda Atkinson a Beth Meadows, yn sôn am sut mae rhai merched yn cael eu llwybr eu hun tuag at ymwrthod ag alcohol, heb ddilyn trywydd traddodiadol
- Emma Davies, ar sut i gefnogi merched i yfed llai ynghanol cwrs bywyd
- Zoe Hubbard, yn trafod sut gall gwasanaethau triniaeth alcohol gefnogi merched yn ystod y menopôs
- A rhagor…
Ac yn bwysicaf oll, byddwn ni’n clywed lleisiau profiad bywyd. Bydd Chelsey Flood yn siarad am sut buodd hi’n diota i deimlo’n normal, gan ddefnyddio alcohol er mwyn cyflwyno wyneb siriol i’r byd; a bydd Kate Rowe-Ham yn disgrifio ei phrofiadau hi o alcohol a’r menopôs.