Seminar ar-lein gydag Alcohol Change UK
Mae mwy o berygl i bobl LHDTC+ wynebu problemau alcohol; ond pan fyddan nhw’n mynd trwy’r fath broblemau mae’n llai tebygol iddyn nhw gael y cymorth mae ei angen arnyn nhw.
Yn y seiat ddysgu ar-lein yma, byddwn ni’n clywed gan bobl gyda phrofiad personol a phroffesiynol o yfed mewn cymunedau LHDTC+, gweithio i greu mwy o lefydd di-alcohol i bobl LHDTC+, a sut mae gwasanaethau cymorth yn gallu bod yn haws eu cael ac yn fwy perthnasol.
Os ydych chi’n gweithio i wneud gwasanaethau alcohol yn fwy croesawgar i bawb, dyna’r digwyddiad i chi.
Dyna rai o’r siaradwyr a gadarnhawyd hyd yn hyn:
- Maryann Wright, sylfaenydd Sappho Events, sy’n creu mannau cymdeithasol saff a sobr i fenywod LHDTC+
- Hidayah UK, yn siarad am eu gwaith i gefnogi Mwslimiaid LHDTC+
Dean Connolly ac Emma Davies brofiadau pobl drawsryweddol ac anneuol o alcohol
- Sgwrs gyda Scott Pearson am alcohol a hunaniaeth LHDTC+