Nodwch: Cafodd yr adroddiad hwn ei ariannu neu’i ysgrifennu gennym o dan ein henw blaenorol Alcohol Concern.
English | Cymraeg
4 Ionawr 2016
Cyflwyniad
Mae cysylltiad rhwng patrymau yfed aciwt a chronig ac ymddygiad hunanladdol. Mae pobl sy’n cael pyliau o yfed trwm yn wynebu mwy o risg o geisio cyflawni hunanladdiad na’r rhai sy’n yfed yn ysgafn, a chredir bod medd-dod yn cynyddu’r risg o gyflawni hunanladdiad hyd at 90 gwaith o gymharu ag ymwrthod â’r ddiod.
Gall medd-dod wneud i bobl golli eu swildod, gan chwalu’r rhwystrau sy’n ein hatal rhag achosi niwed i ni ein hunain, ein gwneud yn fwy byrbwyll a hefyd hybu iselder ac anobaith, hyd yn oed ymhlith pobl nad oes ganddynt hanes blaenorol o broblemau iechyd meddwl. Gall yfed alcohol hefyd fod yn ddull hunanladdiad.
Mae yfed cronig a dibyniaeth ar alcohol yn ffactorau risg clir ar gyfer ymddygiad hunanladdol. Er bod amcangyfrifon yn amrywio, mae astudiaethau yn UDA a’r Almaen yn awgrymu bod tua 40% o gleifion sy’n ceisio triniaeth ar gyfer dibyniaeth ar alcohol yn dweud iddynt wneud un ymgais o leiaf i’w lladd eu hunain ar ryw adeg yn eu bywydau. Mae pyliau dwys o iselder, digwyddiadau bywyd sy’n peri straen (megis dyled, unigrwydd, colli swydd, teulu’n chwalu, profedigaeth, neu ddedfryd o garchar) ac ymddygiad hunanladdol blaenorol yn nodweddiadol o bobl sy’n ddibynnol ar alcohol ac sy’n cwblhau hunanladdiad.