Gwaethaf po rataf

English | Cymraeg

4 Ionawr 2016

Llwythwch i lawr pdf

Bachwch y papur briffio (0.72Mb)

Nodwch: Cafodd yr adroddiad hwn ei ariannu neu’i ysgrifennu gennym o dan ein henw blaenorol Alcohol Concern.

Cefndir

Er i’r swm o alcohol sy’n cael ei yfed yng Nghymru ostwng ychydig ers yr uchafbwynt yn 2004, rydym ni fel cenedl yn dal i oryfed, gan lyncu mwy na dwbl yr hyn yr oeddem yn ei yfed yn yr 1950au. Yn ôl Arolwg Iechyd Cymru 2014, dywedodd 40% o oedolion Cymru iddynt yfed mwy na’r swm canllaw (cyfredol) yn ystod yr wythnos flaenorol, gan gynnwys bron i chwarter a ddywedodd iddynt yfed mwy na dwywaith hwnnw, gan gynyddu’n sylweddol y perygl iddynt ddatblygu cyflyrau sy’n gysylltiedig ag alcohol gan gynnwys clefyd yr iau, a chanser y fron, y geg a’r gwddf.

O ganlyniad, mae ein system iechyd yng Nghymru dan bwysau aruthrol: yn ôl adroddiad gan Arsyllfa Iechyd Cyhoeddus Cymru, mae ysbytai Cymru’n ymdrin â chynifer â 1,000 o dderbyniadau sy’n ymwneud ag alcohol bob wythnos, a hynny’n “llawer llai na’r cyfanswm gwirioneddol, am fod angen cyfri’r rhai sy’n mynd i adrannau argyfwng, galwadau am ambiwlans ac apwyntiadau meddyg teulu, a’r cyfan yn deillio o alcohol”.

Yn anad dim, y ffaith fod alcohol yn haws ei fforddio sydd wedi peri cynnydd diota a’r niwed sy’n dod yn ei sgîl. Mae alcohol bellach ryw 54% yn fwy fforddiadwy nag oedd 35 mlynedd yn ôl, o gymharu ag incwm cyfartalog pob aelwyd. Mae’r rhan fwyaf o’r alcohol rhad sydd ar werth ar gael trwy archfarchnadoedd a siopau diodydd eraill yn hytrach na thafarndai, ac yn aml fe gynigir alcohol am brisiau gostyngol er mwyn denu cwsmeriaid i siopa. At ei gilydd, y rhai sy’n yfed yn drymach sy’n tueddu i ffafrio’r alcohol rhataf; ac oherwydd hynny, yr alcohol rhataf yn y farchnad sy’n cael ei brynu a’i yfed fwyaf, ac sydd felly’n achosi’r niwed mwyaf.

Mae Alcohol Concern yn ymgyrchu ers sawl blwyddyn dros isafbris am bob uned o alcohol yng Nghymru. Byddai hwnnw’n gosod pris gwaelodol na fyddai modd gwerthu alcohol o dano. Mae gwaith modelu gan Grŵp Ymchwil Alcohol Sheffield i Lywodraeth Cymru wedi dod i’r casgliad y byddai isafbris fesul uned (MUP) yn effeithiol ar gyfer lleihau niwed alcohol a’r costau sy’n deillio o oryfed, a hynny heb effeithio’n ormodol ar yfwyr cymedrol. Mae Bil Iechyd Cyhoeddus (Isafbris am Alcohol) (Cymru) Llywodraeth Cymru yn cynnig cyflwyno isafbris o 50c yr uned, ond credir bod llawer yn dibynnu ar hynt cynlluniau tebyg yn yr Alban, lle mae Cymdeithas Wisgi’r Alban yn herio cyfreithlondeb MUP yn y llysoedd.