Dod â phroblem?

English | Cymraeg

30 Mawrth 2022

Llwythwch i lawr pdf

Bachwch yr adroddiad (1.21Mb)

Crynodeb

Yn y blynyddoedd diwethaf, mae mwy o bobl nag erioed yn prynu alcohol arlein yn y wlad hon, oddi wrth amrywiaeth gynyddol o werthwyr, a’r rheini yn aml yn addo dod â diodydd i garreg eich drws ymhen munudau.

Er hynny, wrth i’r farchnad barhau i ehangu, mae ymchwil a gomisiynwyd gan Alcohol Change UK wedi codi cwestiynau am ba mor gadarn yw’r trefniadau ar gyfer diogelu plant ac oedolion bregus rhag niwed alcohol. Yn benodol:

  • Comisiynodd Alcohol Change UK ymchwilwyr ym Mhrifysgol Glyndŵr Wrecsam i edrych ar systemau dilysu oedran ar wefannau gwerthwyr. Cafodd yr ymchwilwyr wendidau mawr, gan ddod i’r casgliad fod dulliau gwirio oedran ar-lein yn “aneffeithiol i raddau helaeth”
  • Profwyd amrywiaeth o werthwyr sy’n gwerthu alcohol ar-lein trwy gyfres o brofion prynu a gomisiynwyd gan Alcohol Change UK. Mewn 72% o achosion lle’r oedd alcohol wedi’i archebu i gyrraedd o fewn dwy awr, cafodd ei drosglwyddo i brynwyr 18 a 19 mlwydd oed heb geisio tystiolaeth o’u hoedran, a hynny’n groes i bolisïau’r gwerthwyr eu hunain ynglŷn â dosbarthu eitemau â chyfyngiad oedran arnynt i’r rhai a allai fod dan oed
  • Datgelodd ymchwil gan Cogent Research ar ran Alcohol Change UK fod dryswch ymhlith gyrwyr dosbarthu am bolisïau gwerthwyr ar ddilysu oedran, a bod diffyg hyfforddiant effeithiol ar wirio oedran. Roedd ansicrwydd tebyg ymhlith gyrrwyr ynglŷn â’r rheolau am basio diodydd i gwsmeriaid meddw.

Mae’r ymchwil hon i gyd yn awgrymu nad yw cwmnïau sy’n gwerthu alcohol ar-lein yn gwneud digon o bell ffordd i sicrhau nad yw alcohol yn cael ei drosglwyddo
i’r rhai dan oed, neu i oedolion meddw, ar garreg y drws. Mae angen gwelliant, a hynny’n ddiymdroi. Yn ein barn ni, mae angen mynd ati ar hyd sawl trywydd,
gan gynnwys:

  • Dylai gwerthwyr sefydlu system hyfforddiant a chefnogaeth gadarn i’w gyrwyr, er mwyn eu galluogi i wrthod yn effeithiol ac yn gyson drosglwyddo
    alcohol i unrhyw un dan oed neu sydd i’w weld yn amlwg feddw
  • Dylai heddluoedd a thimau safonau masnach ledled Cymru a Lloegr gynnal profion prynu yn rheolaidd, gyda phrynwyr dan 18 mlwydd oed, er mwyn profi i
    ba raddau mae gwerthwyr yn cydymffurfio â’r gyfraith ac â’u polisïau eu hunain i beidio â gwerthu alcohol na’i gyflenwi i’r rhai dan oed. Dylid ystyried
    hefyd y ffordd orau i brofi a yw alcohol yn cael ei drosglwyddo i bobl sy’n feddw
  • Dylid cydnabod yr angen am ragor o ymchwil er mwyn deall yn well i ba raddau mae pobl dan oed yn cael gafael ar alcohol drwy werthwyr ar-lein
  • Dylid edrych eto ar ddeddfwriaeth drwyddedu Cymru a Lloegr, a’r canllawiau sy’n cyd-fynd â hi, er mwyn sicrhau ei bod yn eglur i bawb beth yw eu
    rolau a’u cyfrifoldebau wrth werthu alcohol ar-lein a’i ddosbarthu i gartrefi pobl.