Cafodd y Brosiect Llond Plât ei harwain gan Alcohol Change UK gyda chymorth ariannol gan Llywodraeth Cymru. Gwnaethpwyd y gwaith ar y cyd â Barod a’r Nelson Trust.
                        
                                                    
                                Prosiect gan Alcohol Change UK sy’n ymwneud â llawer mwy nag alcohol yw Llond Plât. Mae’n ymwneud â’r diffyg maeth a’r unigedd sydd yn aml yn cyd-fynd â phroblemau alcohol; ac â sut mae cysylltu â phobl eraill o gwmpas bwyd yn gallu hybu lles a lleihau niwed. Mae’n cynnig dull i wasanaethau alcohol – ac amrywiaeth o wasanaethau eraill – fynd ati i gynorthwyo pobl sy’n wynebu amryw heriau yn eu bywydau. 
Yn y Llawlyfr Llond Plât yma, rydym ni wedi tynnu ar ein hymchwil ein hun ac ymchwil pobl eraill, ac yn anad dim, ar sylwadau a syniadau pobl sydd â phrofiad personol o’r pynciau dan sylw. Tynnon ni hyn i gyd ynghyd er mwyn creu canllaw i wasanaethau lleol ar gynnal gweithgareddau coginio a chiniawa llwyddiannus.