Pontio’r bwlch: Llawlyfr ar gyfer cefnogi pobl sy’n wynebu problemau alcohol a hunan-niwed

English | Cymraeg

16 Tachwedd 2023

Ymchwilwyr:

Lauren Booker ac Andrew Misell, gyda chymorth Eden Sterry.

Yn aml, dulliau ymdopi ar gyfer gofid yw yfed a hunan-niwed, ac maen nhw ill dau yn deillio’n aml o drawma.

Anaml y bydd problemau alcohol yn syml. Gallan nhw ddeillio o drawma’r gorffennol neu rwystredigaethau’r presennol. Efallai bydd cysylltiadau rhyngddynt a phroblemau iechyd eraill, neu anawsterau mewn cydberthnasau a phobl eraill. Gallan nhw gyd-ddigwydd â phob un o’r pethau eraill hyn, eu hachosi, neu ddod yn eu sgîl. Yn aml, nid oes modd datblethu’r cymhlethdod hwn a danfon rhywun at gyfres o wasanaethau i ddatrys pob problem fesul un – materion alcohol fan hyn, iechyd meddwl fan draw, ac ati. Er mwyn gweithio’n dda, mae rhaid i wasanaethau gydnabod y person cyfan a’i gefnogi.[i] Mae’r berthynas rhwng alcohol a hunan-niwed yn enghraifft eglur o’r fath gymhlethdod, ac mae ymchwil a gomisiynwyd gan Alcohol Change UK wedi dangos:

  • Cysylltiad clir ond cymhleth rhwng alcohol a hunan-niwed ym mywydau rhai pobl
  • Bwlch rhwng gwasanaethau ar gyfer hunan-niwed (ac iechyd meddwl yn gyffredinol) a rhai ar gyfer problemau alcohol – blwch mae rhai pobl fregus iawn yn cwympo drwyddo
  • Patrwm o beidio â diwallu anghenion cymhleth, ac o bobl yn cuddio cymhlethdod eu hanghenion (trwy beidio â datguddio eu hunan-niwedd neu’u harferion yfed) er mwyn cael eu derbyn gan wasanaethau.[ii]

At hynny, mae ein trafodaethau gyda gweithwyr ym meysydd alcohol a hunan-niwed yn awgrymu bod gwasanaethau yn y ddau faes yn gweld pobl gyda meddyliau, teimladau ac arferion hynod debyg i’w gilydd, gan fod y ddau ymddygiad – yfed a hunan-niweidio – yn aml yn ddulliau ymdopi ar gyfer gofid tebyg iawn. Yn bôn, nid ydynt mor wahanol i’w gilydd ac roeddem ni’n tybio, ac maen nhw ill dau yn deillio’n aml o drawma a thrallod.

Yn y llawlyfr hwn, rydym ni wedi ceisio cloriannu profiadau pobl sydd yn yfed ac yn hunan-niweidio neu wedi bod yn gwneud; a chynnig ychydig gynghorion ar sut gall gwasanaethau eu cefnogi’n well. Ein disgwyl yw mai gweithwyr gwasanaethau alcohol a chyffuriau, a rhai ar gyfer hunan-niwed, fydd prif ddarllenwyr y llawlyfr. Ond dylai fod yn ddefnyddiol i amryw wasanaethau sy’n cynorthwyo pobl sy’n wynebu’r ddau her hyn: gwasanaethau cymdeithasol, y gwasanaethau brys, ysgolion a cholegau, meddygfeydd ac ysbytai, a chyrff gwirfoddol a chymunedol sy’n cynnal pobl fregus.

Nid y llawlyfr hwn yw’r gair olaf ar y mater. Bydd rhaid i bob gweithiwr farnu’n broffesiynol sut i addasu orau at anghenion pobl. Yr hyn sydd yma yw crynodeb o’r hyn mae pobl gyda phrofiad o broblemau alcohol a hunan-niwed wedi dweud y byddai’n fuddiol iddyn nhw, ac o’r hyn a fu’n fuddiol ym marn nifer o weithwyr yn y ddau faes.

Ein gobaith yw y bydd y llawlyfr hwn yn helpu gweithwyr gwasanaethau alcohol a hunan-niwed, a rhai eraill, i fod yn fwy hyderus a mwy medrus wrth ymdrin yn holistig â’r garfan hon o bobl, ac felly sicrhau gwell canlyniadau iddyn nhw. Gobeithiwn hefyd y bydd yn sbarduno mwy o gydweithio a chyd-ddeall rhwng gwasanaethau, gan wireddu’r weledigaeth na fydd “yr un drws anghywir” gan y bydd “pob drws yn y…system yn arwain at y gwasanaethau angenrheidiol”.[iii] Gan fod hunan-niwed ac yfed niweidiol ill dau, yn ôl pob golwg, wedi cynyddu ymhlith rhai o’r bobl fwyaf bregus yn y blynyddoedd diwethaf, credwn fod hyn yn bwysicach nag erioed.[iv], [v], [vi]

Hwn yw’r argraffiad cyntaf o’r llawlyfr hwn. Mawr obeithiwn nad hwn fydd yr un olaf ac y bydd fersiynau newydd wrth i ni ddysgu mwy. Mae’r llawlyfr ar gael o’n gwefan yn rhad ac am ddim yn Gymraeg a Saesneg. Os bydd gennych unrhyw sylwadau neu gwestiynau amdano, neu os credwch fod rhywbeth y dylem ei ychwanegu, ei dynnu, neu’i ddiwygio, peidiwch ag oedi cyn cysylltu â ni i rannu eich barn a’ch syniadau. Mae croeso i bobl ymateb yn Gymraeg neu Saesneg.

Er mwyn trefnu hyfforddiant i’ch sefydliad chi ar sut i ymdrin yn well â phroblemau alcohol a hunan-niwed, cysylltwch â [email protected].

Cyfeiriadau

[i] Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol (2021) Review of drugs part two: prevention, treatment, and recovery, ar-lein, ar gael trwy: https://www.gov.uk/government/publications/review-of-drugs-phase-two-report/review-of-drugs-part-two-prevention-treatment-and-recovery

[ii] Chandler, A. a Taylor, A. (2021) Alcohol and self-harm: A qualitative study, ar-lein, ar gael trwy: https://alcoholchange.org.uk/publication/alcohol-and-self-harm-a-qualitative-study

[iii] Adran Iechyd Llywodraeth Awstralia (2016) Guidelines on the management of co-occurring alcohol and other drug and mental health conditions in alcohol and other drug treatment settings, ar-lein, ar gael trwy: https://comorbidityguidelines.org.au/pdf/comorbidity-guideline.pdf

[iv] Llywodraeth ei Mawrhydi (2021) Preventing suicide in England: Fifth progress report of the cross-government outcomes strategy to

save lives, ar-lein, ar gael trwy: https://www.gov.uk/government/publications/suicide-prevention-in-england-fifth-progress-report

[v] Iechyd Cyhoeddus Lloegr (2021) Monitoring alcohol consumption and harm during the COVID-19 pandemic: summary, ar-lein, ar gael trwy: https://www.gov.uk/government/publications/alcohol-consumption-and-harm-during-the-covid-19-pandemic/monitoring-alcohol-consumption-and-harm-during-the-covid-19-pandemic-summary

[vi] Alcohol Change UK (2020) Research: drinking in the UK during lockdown and beyond, ar-lein, ar gael trwy: https://alcoholchange.org.uk/blog/2020/drinking-in-the-uk-during-lockdown-and-beyond