Oherwydd hyn, gallwn ni ddweud y gwir am alcohol a niwed alcohol; gan gynnig cyngor a chefnogaeth ddiduedd, yn rhad ac am ddim, i bawb sydd am newid eu perthynas ag alcohol, a gan ymgyrchu’n rhydd dros y newidiadau cymdeithasol sy’n angenrheidiol i roi diwedd ar niwed alcohol. Ar hyn o bryd, daw ein hincwm o bum prif ffynhonnell:
|
O ble mae’n harian yn dod?
English | Cymraeg
Elusen wirioneddol annibynnol ydym ni, ac mae ein hannibyniaeth yn bwysig iawn i ni. Felly, ni dderbyniwn ni arian gan y diwydiant alcohol.
Ein cronfa fuddsoddi
Mae miloedd lawer o bobl ar draws y wlad yn awyddus i leihau niwed alcohol. Mae llawer o’r bobl hyn yn rhoi arian i ni yn rheolaidd; neu’n codi arian gan eu teuluoedd a’u cyfeillion trwy gymryd rhan mewn digwyddiadau a sialensiau fel y
Dry January® 10K neu un o lawer ras a sialens arall led-led y wlad. Rydym ni hefyd yn ddiolchgar iawn am y rhoddion sy’n dod i ni er cof am anwyliaid, yn aml gan deuluoedd gyda phrofiad agos a phersonol o niwed alcohol. Diolch o galon i’n cefnogwyr gwych.
Ffioedd am ein gwaith ymgynghori a hyfforddi
Mae dwy ochr i’n gwasanaethau ymgynghori a hyfforddi, a ninnau’n codi ffioedd amdanynt ill dwy. Mae’r ddwy ochr yn creu newid – gan leihau niwed alcohol – yn ogystal â chreu incwm. Yn gyntaf, byddwn ni’n gweithio gyda chomisiynwyr a darparwyr gwasanaethau triniaeth alcohol lleol er mwyn gwneud eu cymorth i’r bobl sydd â’r problemau alcohol mwyaf dwfn a chymhleth yn fwy effeithiol – dyma ein rhaglen Golau Glas. Yn ail, mae gennym ni wasanaeth Alcohol ar y Gwaith i gyflogwyr o bob math sydd am greu gweithleoedd mwy iachus a mwy diogel o ran alcohol. Codwn ffioedd am y ddau wasanaeth hyn. O ran yr ail wasanaeth, ni wrthodwn weithio gyda chynhyrchwyr a gwerthwyr alcohol, a byddwn ni, felly, yn derbyn taliadau ganddynt am waith penodol i hyfforddi eu gweithwyr.
Cefnogaeth gan ein Partneriaid Corfforaethol
Mae nifer o fusnesau di-alcohol fel cynhyrchwyr diodydd a brandiau ffordd-o-fyw yn cydweithio â ni ac yn cyfrannu’n ariannol at ein gwaith. Trwy eu cefnogaeth hael, gallwn ni sicrhau fod ein hymgyrchoedd fel Ionawr Sych, Gwanwyn Di-win, a chynigion fel yr ‘app’ Try Dry® yn dal i fod ar gael yn rhad ac am ddim i bawb sydd am eu defnyddio, a bod ein negeseuon yn cyrraedd mwy o bobl. Os yw eich busnes chi eisiau cefnogi ein gwaith ni, cysylltwch â ni!
Ein cronfa fuddsoddi
Mae ein harian wrth gefn yn cael eu dal mewn cronfa fuddsoddi dan reolaeth CCLA, yn unol â’n polisi buddsoddi. Yn benodol, ni fuddsoddwn mewn “cwmnïau sy’n cynhyrchu diodydd alcoholaidd neu dybaco, yn ogystal â chwmnïau lle mae dosbarthu’r fath nwyddau neu’u gwerthu yn fwy nag 20% o werthiannau. Mae hyn yn cynnwys cronfeydd sy’n caniatáu buddsoddi yn y fath gwmnïau. Anogwn ein rheolwyr buddsoddi i sgrinio cwmnïau o ran ystyriaethau moesegol a cynaladwyedd.”
Grantiau
Rydym ni’n ceisio grantiau gan ymddiriedolaethau, sefydliadau a llywodraethau. Ar hyn o bryd, derbyniwn grant gan Lywodraeth Cymru i gefnogi ein gwaith i leihau niwed alcohol yng Nghymru.
Y diwydiant alcohol
Ni dderbyniwn arian gan y diwydiant alcohol ac mae ein hincwm yn rhydd rhag dylanwad cwmnïau alcohol.
Er hynny, rydym ni’n fodlon siarad gyda phobl o’r diwydiant alcohol ac o fyd manwerthu, er mwyn clywed eu barnau a’u cynlluniau; ac i gyfleu ein tystiolaeth a’n barnau ni. Credwn fod datblygu atebion cynhwysfawr i niwed alcohol yn ei holl amrywiaeth yn gofyn am newid mewn gwleidyddiaeth, masnach, a gwasanaethau cyhoeddus, ac rydym ni wedi ymroi i ymgyrchu dros wella arferion yn yr holl feysydd hyn.
Mae gan gynhyrchwyr a gwerthwyr alcohol gryn rym i leihau yfed alcohol neu’i gynyddu, ac i symud arferion cymdeithasol a diwylliannol ynglŷn ag alcohol. Felly, ni ellir eu hanwybyddu. Ond ni fyddwn ni byth yn peidio â dal unigolion a chwmnïau i gyfrif tra bydd eu harferion yn dal i niweidio miliynau o fywydau led-led y Deyrnas Unedig a’r tu hwnt.
Mae ein gwaith ymgysylltu â’r diwydiant, ac â diwydiannau eraill, yn cael ei lywio gan bolisi cynhwysfawr, sy’n cael ei adolygu’n gyson gan ein Tîm Uwch-reolwyr a’n Bwrdd.