Alcohol a’r menopos

English | Cymraeg

Un cwestiwn mae pobl yn ei ofyn i ni’n aml yw sut mae alcohol yn effeithio ar y corff yn ystod menopos. Yma, rydym ni wedi tynnu ynghyd ychydig o wybodaeth a chyngor clir a syml er mwyn eich helpu chi i reoli faint rydych chi’n ei yfed wrth i chi ffeindio’ch ffordd trwy’r menopos.

Cyflwyniad

Cam cwbl naturiol ym mywydau’r rhan fwyaf o ferched yw menopos. Nid yw fymryn yn haws o’r herwydd. Diolch i’r drefn, rydym ni wedi hen gefnu ar sibrwd yn dawel am “newid bywyd” neu “derfyn oed”, ac mae nifer o fenywod amlwg wedi rhannu eu profiadau ohono yn ddiweddar, gan wneud y menopos yn destun trafod llawer mwy cyffredin.

Ond mae pethau’n bell o fod yn berffaith. Mae digon o goelion di-sail o hyd a digon o dyllau yn ein gwybodaeth.

Deall menopos

Ystyr lythrennol “menopos” yw diwedd mislif. Mae’n digwydd fel arfer rhwng 45 a 55 oed. Mae’r wyfeydd (ofarïau) yn peidio â gwneud wyau ac mae lefelau’r hormonau oestrogen, progesteron a thestosteron yn disgyn. A diffyg yr hormonau hyn sy’n achosi’r symptomau’r menopos.

Gwrido a chwysu yw’r symptomau mwyaf adnabyddus. Ond mae’r menopos hefyd yn gallu peri pryder, iselder, cwsg gwael, gwain sych, mislifoedd afreolaidd, a dryswch a thrafferth cofio mae rhai yn ei alw yn “niwl pen”. Mae’n gallu tanseilio eich hyder yn y gwaith a rhoi straen ar eich perthnasau ag eraill.

Mae’n werth nodi nad rhyw ddigwyddiad unigol byr yw’r menopos. Cyn y menopos mae cyfod o’r enw “perimenopos”, sy’n digwydd pan fydd gennych chi symptomau’r menopos ond mae’r mislif heb beidio eto. Mae perimenopos yn diweddu a’r menopos yn dechrau pan na fyddwch chi wedi cael mislif am ddeuddeg mis. Hyd yn oed ar ôl hynny, gall symptomau’r menopos bara am flynyddoedd rhagor.

Yfed yn ystod menopos

Mae alcohol wedi’i ddisgrifio fel “hoff ddull ymdopi’r wlad” a does ryfedd fod rhai yn yfed mwy wrth geisio ymdopi â’r menopos. Ar y llaw arall, gall alcohol waethygu symptomau’r menopos – yn enwedig gwrido a chur pen, pryder ac iselder. Ac wrth i ni heneiddio mae ein cyrff yn treulio alcohol yn arafach. Felly, o ran alcohol a’r menopos, ble mae’r ffin rhwng cymedroldeb a gormodedd?

Y cyngor gan Brif Swyddogion Meddygol Prydain – i bawb, ar bob adeg o’u bywyd – yw peidio ag yfed mwy na 14 uned o alcohol yr wythnos, sef tua photelaid a hanner o win neu bum neu chwe pheint o gwrw arferol. Syniad da yw gwasgaru’ch diodydd ar draws yr wythnos a chymryd ychydig ddyddiau o seibiant rhag alcohol bob wythnos. Haws dweud na gwneud weithiau, ac os yw hi’n anodd i chi, nid chi yw’r unig un.

Dyma ychydig o gynghorion, ar sail profiad, i’ch helpu chi i yfed yn gymedrol:

  • I rai pobl, meddwl ac yfed fesul uned yw’r ffordd hawsaf i beidio ag yfed mwy na 14 uned yr wythnos. Beth am fachu ein ‘app’ Try Dry® er mwyn eich helpu chi i gadw golwg ar bethau? Mae e ar gael yn rhad ac am ddim ac yn ffordd hawdd i gofnodi’r unedau, calorïau ac arian byddwch chi eu harbed trwy beidio ag yfed, nodi eich diwrnodau sych, ennill bathodynnau, gosod nodau ac ati.
  • Rhowch gynnig ar gadw dyddiadur diodydd – gan gofnodi beth rydych chi’n ei yfed am ychydig wythnosau, er mwyn eich helpu chi i ddeall pryd (a pham, efallai) byddwch chi’n tueddu i yfed.
  • Hyd yn oed os nad ydych chi am gadw dyddiadur, mae wastad yn werth meddwl am eich rhesymau dros yfed. Efallai ei bod hi wedi mynd yn arfer gennych chi yfed gyda chinio neu ar ryw noson benodol o’r wythnos. Trwy ddeall eich arferion, gallwch chi benderfynu a ydych chi eisiau eu newid.
  • Fel dwedon ni eisoes, syniad da yw cymryd ychydig ddyddiau o seibiant rhag alcohol bob wythnos. Dyma ffordd effeithiol i yfed llai ac osgoi yfed heb feddwl.
  • Os ydych chi am gael rhywbeth arbennig i’w yfed, rhowch gynnig ar yr amrywiaeth fawr o gwrw, seidr, gwin a gwirodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol sydd ar gael erbyn hyn. Rydym ni wedi rhoi barn ar tua 450 ohonyn nhw ar ein gwefan, ac mae’n fwy na thebyg byddwch chi’n cael rhywbeth da i gymryd lle eich diodydd alcoholaidd arferol.
  • Trïwch beidio â defnyddio alcohol i’ch helpu chi i gysgu. Fe fydd alcohol weithiau’n eich helpu chi i fynd i gysgu ond bydd e’n eich cadw chi rhag cysgu’n ddwfn, gan eich gadael chi’n teimlo’n lluddedig bore trannoeth. Os ydych chi’n cael trafferth cysgu, meddyliwch am bethau eraill allai eich helpu i ymlacio – fel cerddoriaeth, darllen, neu fyfyrdod. Efallai bydd yn llesol i chi leihau tymheredd eich ystafell wely hefyd – 18°c yw’r lefel orau ym marn llawer un.

Ffyrdd eraill i ofalu am eich iechyd yn ystod menopos

Yn ogystal â cheisio yfed yn fwy cymedrol, mae ychydig o bethau eraill gallwch chi eu gwneud i ofalu amdanoch chi’ch hun yn ystod menopos. Yn union fel pob adeg arall o’ch bywyd, syniad da yw mynd i’r gwely tua’r un amser bob dydd, bwyta amrywiaeth o fwydydd, gwneud rhywfaint o ymarfer corff (does dim rhaid iddo fod yn eithriadol o egnïol na blinderus – digon yw mynd am dro hamddenol!) a meithrin eich cysylltiadau gyda phobl eraill – eich cyfeillion, eich teulu, neu bwy bynnag sy’n gwmnïaeth lesol i chi.

Os gallwch chi, bydd e’n fuddiol hefyd i chi esbonio i’r rhai o’ch cwmpas beth rydych chi’n mynd trwyddo wrth fynd trwy’r menopos – bydd yn eu helpu nhw i’ch deall ac i gynnig cymorth i chi.

Gallwch chi ddysgu mwy am fyw’n iach gyda menopos, a llawer peth arall, ar wefan y Menopause Charity. Mae ganddyn nhw hefyd gyngor ar sut i siarad am y menopos gyda’ch cymar, a gyda’ch cyflogwr.