Trafod alcohol o ddifri yn y Senedd nesaf

English | Cymraeg

Andrew Misell, Cyfarwyddwr Cymru | March 2026 | 10 minutes

Gydag etholiadau ar y gorwel yng Nghymru, mae pump elusen flaenllaw yn galw am ymdrech newydd i leihau niwed alcohol.

Bydd etholiadau nesaf Senedd Cymru ar 7 Mai 2026, gan osod trywydd polisi cyhoeddus Cymru am y pedair blynedd nesaf. Bydd pwy bynnag fydd yn ffurfio Llywodraeth nesaf Cymru yn gyfrifol am bwerau dros ofal iechyd a gofal cymdeithasol, iechyd y cyhoedd, a sawl maes arall lle mae alcohol yn ffactor.

Dyna pam mae Adfam, Adferiad, Alcohol Change UK, Barod a Kaleidoscope wedi dod ynghyd i alw ar Aelodau’r Senedd nesaf, o bob plaid, i wneud lleihau niwed alcohol yn flaenoriaeth. Cewch chi ddarllen rhagor am ein cynigion polisi yma. Yn y blog yma, rydym ni wedi gwahodd cynrychiolwyr yr elusennau sy’n bartneriaid i ni i sôn am rai o’r materion o bwys.

Yn aml iawn, trawma sydd wrth wraidd problemau alcohol. Rob Barker o Barod sy’n egluro pam mae hi mor pwysig gweithio mewn modd parchus a charedig:

"Yn ôl y dystiolaeth yng Nghymru, mae cryn nifer o bobl sydd wedi mynd trwy brofiadau trawmatig. Os byddan nhw’n ceisio triniaeth, ble bynnag maen nhw’n byw yng Nghymru, mae’n hollbwysig fod gwasanaethau yn dilyn Fframwaith Cymru sy’n Ystyriol o Drawma, gan ddarparu cymorth cyson a chydlynol. Dylai fod polisïau a dulliau gweithio gan wasanaethau sy’n sicrhau na fyddan nhw’n achosi mwy o drawma i bobl a’u bod nhw’n cynnig amgylchedd sy’n gadael i bobl ffynnu a llwyddo.

Mae ieithwedd yn bwysig hefyd, wrth siarad gyda phobl sy’n byw gydag effeithiau alcohol, ac wrth siarad amdanyn nhw. Dylem ni ddewis ein geiriau yn ofalus, gan bwysleisio urddas, croeso, a gobaith. Ers amser hir, mae ieithwedd amhriodol, feirniadol ac annynol yn gwthio pobl sy’n byw gyda phroblemau alcohol i’r ymylon. Mae ieithwedd o’r fath yn cau pobl allan ac yn gwadu eu dynoliaeth.

Mae’n hen bryd cefnu ar eirfa ddifrïol sy’n peri rhagor o niwed seicolegol, gan droi, yn lle hynny, at ieithwedd garedig a pharchus; ac mae cyfle i’n gwleidyddion ni arwain y ffordd yn hyn o beth."

Dean Cawsey o Adferiad sy’n esbonio pam mae rhaid ymdrin ag iechyd meddwl a defnyddio sylweddau gyda’i gilydd:

"Yn rhy aml o dipyn, mae pobl ag anghenion cymhleth yn clywed bod rhaid ymdrin ar wahân â phob un o’u hanghenion, gan eu gorfodi i geisio llwybr trwy sawl system, a gan arwain at oedi, dyblygu, ac argyfyngau di-alw-amdanynt. Heb os, mae rhaid gwneud rhagor i gydlynu gwasanaethau iechyd meddwl a defnyddio sylweddau.

Mwy nag erioed, mae angen i gymorth fod ar gael yn rhwydd, yn brydlon, ac mewn modd cydlynol. Yn 2023-24, dwedodd bron i dri-chwarter (72%) o oedolion oedd yn cychwyn triniaeth am ddefnyddio sylweddau fod ganddyn nhw hefyd anghenion iechyd meddwl. Dangosodd arolwg genedlaethol flaenorol yng Nghymru fod pobl yn “sboncio yn ôl a blaen” rhwng gwasanaethau iechyd meddwl ac alcohol a chyffuriau, gan aros yn hir am wasanaethau dadwenwyno, adfer, a chwnsela.


Rydym ni’n galw ar Lywodraeth nesaf Cymru i gydlynu gwasanaethau i bobl sydd ag anghenion cymhleth – gan gynnig gwasanaethau ar y cyd ar gyfer anghenion sy’n cyd-fynd; gwasanaethau sy’n cydweithio; a llwybr syml a hwylus."

Mae Rondine Molinaro o Kaleidoscope yn pwysleisio’r angen i wasanaethau fynd ati i chwilio am y bobl fwyaf bregus:

"Dyw pobl sy’n defnyddio alcohol ddim bob tro’n teimlo gallan nhw gerdded i mewn i ganolfan driniaeth. Mae sawl rheswm dros hyn, gan gynnwys diffyg trafnidiaeth, heriau iechyd meddwl, cyfrifoldebau gofal, cyfrifoldebau gwaith, gwarth a chywilydd, apwyntiadau ar amserau anodd, digartrefedd, defnyddio sawl sylwedd, a llu o rwystrau eraill. Felly, mae rhaid i wasanaethau fynd ati’n fwriadol i chwilio amdanyn nhw, gan fynd â thriniaeth at yr unigolyn – gan gynnig cyfleoedd i geisio cymorth, mynd i’r afael â phroblemau, cydlynu, a chyfeirio at wasanaethau eraill.

Mae llawer ffordd i gyrraedd pobl: nyrsys cymunedol yn cynnig dadwenwyno gartref, timau aml-ddisgyblaeth yn rhoi cymorth ar y stryd i’r rhai sy’n cysgu yno, timau iechyd cynhwysol yn gweithio gyda gwasanaethau alcohol a chyffuriau, a cherbydau cymorth sy’n mynd at bobl lle maen nhw.


Yn aml, credir bod gwasanaethau o’r fath yn opsiwn ychwanegol, ond dylen nhw fod yn rhan hanfodol o driniaeth, gyda chyllid ddigonol i sicrhau eu bod yn cyrraedd pawb."

Mae angen cymorth ar blant a theuluoedd hefyd, yn ôl Rob Stebbings o Adfam:

"Mae canlyniadau niwed alcohol yn bellgyrhaeddol, ac mae’r dystiolaeth yn glir: mae effeithiau alcohol yn mynd tu hwnt i’r unigolyn, gan effeithio’n drwm ar blant, teuluoedd, a chymunedau cyfan. I lawer o bobl ifanc, mae byw mewn amgylchedd lle mae niwed alcohol yn bresenoldeb mawr yn achosi heriau emosiynol, cymdeithasol a seicoleg parhaol; ac mae’r un peth yn wir am oedolion. Ond, er gwaethaf maint a difrifoldeb yr effeithiau hyn, yn aml, mae’r cymorth sydd ar gael i deuluoedd yn annigonol ac anghyson.


Er bod Safonau Ansawdd cenedlaethol ar gyfer cefnogi’r rhai sy’n byw gydag effeithiau defnyddio sylweddau gan rywun arall, mae’r ddarpariaeth yn fylchog ac anghyson o hyd. O ganlyniad, mae llawer o blant a theuluoedd heb gael y cymorth angenrheidiol. Rydym ni’n dadlau dros wneud plant a theuluoedd yn ganolbwynt i bolisi ac ymarfer, gan sicrhau eu bod yn cael eu cefnogi i ffynnu, heb ofn, pryder na gwarth."

I gloi

Dyma ychydig o’r pynciau byddwn ni’n eu codi gydag Aelodau’r Senedd dros y pedair blynedd nesaf. Byddwn ni hefyd yn dadlau dros well cefnogaeth i’r rhai sy’n byw gyda niwed alcohol i’r ymennydd, gwneud dadwenwyno diogel yn haws ei gael, a mwy o gydweithio rhwng gwasanaethau trin alcohol a gwasanaethau cam-drin domestig. Oherwydd credwn ni fod dyfodol mwy diogel a mwy iach yn bosibl i Gymru.


Dysgwch ragor am yr elusennau sy’n bartneriaid i ni: