Mae’r isafbris am alcohol yma o hyd yng Nghymru, gan aros ar y llyfr statud. Bwriodd Aelodau’r Senedd eu pleidleisiau ar ddau fesur – naill i gadw isafbris am alcohol yng Nghymru; a’r llall i’w gynyddu o 50c i 65c yr uned er mwyn gwneud yn iawn am effeithiau chwyddiant, fel sydd eisoes wedi digwydd yn yr Alban. Mae’n dda gennym ddweud fod y ddau fesur wedi’u pasio.
Barn Alcohol Change UK yw bod gosod pris gwaelodol na ellir gwerthu un uned o alcohol – sef 10ml o ethanol pur – o dano mewn diod o unrhyw fath, yn fesur buddiol a gwerth ei gadw. Ni fydd yn datrys pob problem ar ei ben ei hun, ond, trwy dynnu’r diodydd rhataf, cryfaf allan o’r farchnad, mae’n gyfraniad pwysig at leihau niwed.
Heb oes, effaith amlycaf yr isafbris yng Nghymru – fel yn yr Alban – oedd tynnu’r poteleidiau mwyaf o’r seidr cryfaf a rhataf allan o’r farchnad. Roedd y rheini yn aml yn cael eu hyfed gan yr yfwyr mwyaf bregus, gan achosi cryn niwed iddyn nhw.
Cyn cyflwyno’r isafbris yn 2020, roedd poteli tri-litr o seidr gyda chryfder o 7.5% ar werth yng Nghymru am gyn lleied â £3.99, sef 18c yr uned. Gydag isafbris o 50c yr uned, ni ellid gwerthu’r poteli hyn – oedd yn dal 22.5 uned o alcohol – am lai na £11.25. Ar y fath bris, ni fynnai prin neb eu prynu, a diflannon nhw o’r silffoedd. Erbyn hyn, yn lle poteli tri-litr a dau-litr o seidr 7.5%, mae caniau 500ml yn siopau Cymru, gan ei wneud yn llawer anoddach a drutach yfed swm mawr o seidr cryf. Bydd cadw’r isafbris a’i gynyddu yn sicrhau bod hyn yn parhau.
Mae’r isafbris wedi ei wneud yn fwy anodd i’r siopau mawrion gynnig disgowntiau am brynu alcohol yn swmp – lle mae diodydd yn mynd yn rhatach po fwyaf byddwch chi’n eu prynu. Nid yw deddf yr isafbris yn gwahardd y fath gynigion, ond ni ellir disgowntio i’r fath raddau nes mynd â phris unrhyw ddiod unigol o dan lefel yr isafbris. Pan edrychon ni’n ddiweddar ar brisiau un o’r prif archfarchnadoedd, gwelsom bydd isafbris o 65 ceiniog yn codi pris cwta 10.5% o winoedd mewn poteli unigol, ond 39% o winoedd sy’n ar werth gyda disgownt am brynu mwy nag un botelaid, gan olygu bydd llai o’r fath ddisgowntiau yn bosibl.
Peth pwysig ym marn llawer un hefyd yw na fydd yr isafbris yn gwneud dim i danseilio tafarnau’r wlad. Gydag isafbris o 65c yr uned, pris rhataf posibl peint o gwrw yng Nghymru fydd £1.63, ac ni fydd gwydraid mawr o win ar gael am lai na thua £2.15. Gellir gweld yn syth na fydd hyn yn effeithio dim ar brisiau tafarndai.
Lleisiwyd pryderon dilys a diffuant am rai o effeithiau’r isafbris, yn enwedig fod rhai pobl sy’n ddibynnol ar alcohol heb fwyta weithiau er mwyn fforddio diod. Gwaetha’r modd, nid problem newydd yw hon. Roedd i’w gweld ymhell cyn cyflwyno’r isafbris, a’n barn ni yw mai cynorthwyo yfwyr bregus i gael mwy o fwyd, a gwell bwyd, yw’r ateb, nid gwneud alcohol cryf iawn yn rhad eto.
Dyna un rheswm rydym ni’n gweithio i ddeall y berthynas rhwng yfed gormodol a bwyta annigonol; a dyna pam cyhoeddon ni ein Llawlyfr Llond Plât yn 2025 – ar y cyd â Barod a’r Nelson Trust – ar sut i gefnogi pobl gyda phroblemau alcohol i fwyta gwell bwyd a mwy ohono.
Cadw isafbris Cymru yw’r peth iawn i’w wneud, ar y cyd â gwella’r cymorth i bobl fregus sy’n ddibynnol ar alcohol. Trwy brosiectau fel Llond Plât, a’n Dull Golau Glas i gyrraedd yr yfwyr mwyaf bregus, rydym ni’n gweithio i gynyddu’r fath gymorth. A thrwy ein gwaith polisi ac ymgyrchu gydag eraill, rydym ni’n gweithio i sicrhau ei fod ar gael yn brydlon ac ymhob man.