Trafod alcohol o ddifri yn y Senedd nesaf 2026-2030

English | Cymraeg

Darllenwch am ein cynigion i leihau niwed alcohol yng Nghymru wrth i ni nesáu at dymor nesaf Senedd Cymru o 2026 hyd 2030.

Mae Alcohol Change UK wedi ymuno ag Adfam, Adferiad, Barod, a Kaleidoscope er mwyn galw ar Aelodau nesaf Senedd Cymru i ymroi i gefnogi naw newid er mwyn lleihau niwed alcohol yng Nghymru:

  • Trywydd clir ar gyfer lleihau niwed – trwy strategaeth newydd i Gymru ar ddefnyddio sylweddau.
  • Gwasanaethau’n ymdrin â materion alcohol mewn modd sy’n cydnabod trawma.
  • Ieithwedd barchus a thosturiol wrth drafod pobl a’u problemau.
  • Mynd ati’n bwrpasol i chwilio am yr yfwyr mwyaf bregus a’u cynorthwyo.
  • Dadwenwyno diogel ar gyfer y rhai sy’n ddibynnol ar alcohol, er mwyn osgoi symptomau diddyfnu peryglus.
  • Canfod a thrin y rhai sydd â niwed alcohol i’r ymennydd (ARBD).
  • Peidio â mynnu bod rhaid cefnu ar oryfed cyn cael cymorth iechyd meddwl.
  • Cefnogaeth gyson i blant a theuluoedd sy’n byw gydag effeithiau yfed.
  • Gwell cydweithio rhwng gwasanaethau cam-drin domestig a’r rhai sy’n cynnig cymorth ynglŷn ag alcohol.

Dysgwch ragor

Darllenwch ein datganiad polisi byr 'Trafod alcohol o ddifri yn y Senedd nesaf 2026-2030' er mwyn dysgu mwy am ein cynigion a’r rhesymau drostyn nhw.

Llwythwch i lawr pdf

Trafod alcohol o ddifri yn y Senedd nesaf 2026-2030

Darllenwch ein maniffesto i’r Senedd (3.12Mb)