Jump Ship Shore Leave Chuckleberry Sour

English | Cymraeg

Ein barn ar Jump Ship Shore Leave Chuckleberry Sour

Sgôr:

5/5

Cryfder: 0.5%

Calorïau ymhob can: 76

Dyw cwrw sur ddim at ddant pawb ond dyma un o’r goreuon. Mae ganddo liw pinc braf fel grawnffrwyth coch, ac mae’r surni wedi’i gydbwyso’n dda gan fymryn o felystra. Mae hefyd ryw is-flas fel sigârs cain.

A rhag ofn eich bod chi eisiau gwybod, ffrwyth newydd sy’n groesfrid rhwng cyrens coch, gwsberis ac aeron josta yw chuckleberries.

Mae Drydrinker a Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.​