Yn aml, y bobl sy’n wynebu’r problemau alcohol mwyaf difrifol sy’n cael yr anhawster mwyaf wrth geisio cymorth. Yn y seiat ddysgu ar-lein yma, byddwn ni’n clywed gan bobl gyda phrofiad personol a phroffesiynol am sut gallwn ni estyn llaw yn well.
Mae cynadleddau Alcohol Change UK yn canolbwyntio ar roi i chi i atebion ymarferol i gwestiynau anodd y byd go-iawn – ar sut i gwrdd â phobl lle maen nhw a’u cynorthwyo i oresgyn y rhwystrau sy’n eu cadw rhag mwynhau bywyd llawn.
Dyna rai o’r siaradwyr a gadarnhawyd hyd yn hyn:
- Mike Ward o Alcohol Change UK, sy’n galw am ehangu ein diffiniadau o’r niwed i’r ymennydd mae yfwyr bregus yn ei ddioddef.
- Gwasanaeth Cyffuriau ac Alcohol Caerdydd a’r Fro (CAVDAS), ar fanteision gweithio gyda chymheiriaid cefnogol i gyrraedd pobl ar y stryd.
- Adfam, yn rhannu profiadau oedolion o fyw gyda phartner sy’n goryfed.
- Recovery Cymru, yn sôn am natur unigryw pob taith tuag at adferiad, a sut dylai gwasanaethau ymateb.
- Gemma Yarwood o Brifysgol Metropolitan Manceinion, yn trafod gofal diwedd-oes i bobl sy’n defnyddio sylweddau.
Os ydych chi am sicrhau bod gwasanaethau alcohol yn cyrraedd pawb dylen nhw ei gyrraedd, dyma’r gynhadledd i chi.