Awtistiaeth, alcohol, a sylweddau eraill

English | Cymraeg

6 Medi 2021
9:30 - 12:45
Cynhadledd ar-lein

Os colloch chi’r seminar arloesol yma gan Alcohol Change UK, Prifysgol Caerfaddon a Choleg Brenhinol y Seiciatryddion, gallwch chi ei wylio nawr!

Mae pobl awtistig yr un mor debygol o ddefnyddio sylweddau ag unrhyw un arall, ond yn fwy tebygol o wynebu anawsterau wrth geisio cymorth am broblemau ynglŷn â sylweddau. Roedd y cyfarfod ar-lein hanner-diwrnod yma yn codi’r caead oddi ar y pwnc astrus yma, gan roi iddo sylw dyledus o’r diwedd.

Am gwta £10, gallwch chi fachu pedwar cyflwyniad fideo ar y problemau mae rhai pobl awtistig yn eu hwynebu, ac ar sut mae gwasanaethau yn gallu eu cefnogi’n well:

  • Dr Julia Lewis, Seiciatrydd Ymgynghorol ar Ddibyniaeth, Gwasanaethau Camddefnyddio Sylweddau Arbenigol Gwent: ‘Autistic people drink, you know!’
  • Cathie Long, Gweithiwr Cymdeithasol Annibynnol: ‘In the thick of it: perspectives from the frontline of autism social work’
  • Daniel Hua, Prifysgol Caerfaddon: ‘It’s not just about alcohol: autistic people’s use of cannabis and cannabidiol'
  • Dr Sally Adams, Prifysgol Caerfaddon: ‘Working with neuro-diverse drinkers’

Ewch draw i’n siop i’w harchebu nhw heddiw!

Siopwch nawr