Cinio a chymuned

English | Cymraeg

2 Gorffennaf 2026
10:00 - 12.35
Ar-lein
£70 (gan gynnwys TAW a ffïoedd archebu). Cysylltwch â ni ynglŷn â thocynnau rhad i fyfyrwyr a phobl gyda phrofiad personol.

Pwysigrwydd coginio, cyd-fwyta a chymuno er mwyn lleihau niwed alcohol a hybu gwellhad

Seiat ddysgu ar-lein gydag Alcohol Change UK

Dydd Iau 2 Gorffennaf 2026

10.00 tan 12.35

Ni ddaw problemau alcohol ar eu pennau eu hun. Gall goryfed chwalu cysylltiadau cymdeithasol a gwthio prydau bwyd rheolaidd o’r neilltu. Mae llawer o bobl sy’n ddibynnol ar alcohol yn bwyta’n annigonol ac felly’n rhy ysgafn ac yn brin o faeth, gan waethygu’r niwed mae alcohol yn ei achosi iddyn nhw.

Mae cefnogi pobl gyda phroblemau alcohol difrifol i fwyta’n well yn un ffordd dda i leihau niwed alcohol. Mae coginio a chyd-fwyta gydag eraill yn hybu iechyd corff a meddwl ac yn cryfhau’r chyfeillgarwch a chymuned sy’n sylfaen i wellhad.

Ymunwch â ni ar 2 Gorffennaf i ddysgu pam dylai bwyd a maeth fod yn rhan hanfodol o driniaeth ar gyfer alcohol a chyffuriau, a beth gallwch chi ei wneud i sicrhau bod hynny’n digwydd.

Dyma’r siaradwyr:

  • Bally Parekh, yn esbonio pam mae angen i weithwyr alcohol a chyffuriau wybod mwy am faeth
  • Anna Preece, yn trafod sut mae problemau alcohol a phroblemau bwyta yn cyd-ddigwydd, a sut i gyd-greu atebion
  • Claire Thomas, yn disgrifio sut mae Clwb Cinio Dydd Mawrth Barod yn hybu hyder, sgiliau a chysylltiadau
  • Chloe Casey, ar sut mae’r brosiect Maethu Fy Mywyd Newydd yn cefnogi gwellhad trwy goginio a chelf
  • Andrew Misell o Alcohol Change UK, gyda gwahoddiad i ymuno â rhwydwaith cenedlaethol i hybu bwyd a maeth mewn gwasanaethau alcohol a chyffuriau

Darllenwch yr agenda llawn yma