Nid pawb sy’n cael yr un profiad o niwed alcohol. Mae gan bawb eu hanes unigryw eu hun sy’n dylanwadu ar eu patrymau defnyddio alcohol, sut maen nhw’n meddwl amdano, a sut mae’r rhai o’u cwmpas yn ymateb.
Nid yw pob gwasanaeth yr un mor hygyrch i bawb chwaith. Ymunwch â ni ar gyfer ein cynhadledd ar-lein flynyddol er mwyn dysgu sut gall eich gwasanaeth chi gyrraedd amrywiaeth ehangach o bobl a chymunedau.
Nod cynadleddau a seiadau dysgu Alcohol Change UK yw dod â’r ymchwil a’r ymarfer gorau ynghyd, er mwyn ein helpu ni i gyd sy’n gweithio i leihau niwed alcohol i wneud hynny’n well.
Bydd y siaradwyr gwadd yn cynnwys:
- Dr James Brown ar gefnogi oedolion gydag ADHD
- Michelle Gavin ar wneud cymorth ynglŷn ag alcohol yn haws ei gyrraedd i Sipsiwn a Theithwyr
- Louise McIvor ar gyd-gymorth gan bobl LHDTC+ sy’n wynebu effeithiau cyffuriau, alcohol a chemsex
- Dr Jo-Anne Puddephatt ar iechyd meddwl ac alcohol ymhlith cymunedau ethnig lleiafrifol
- Mike Ward, yn esbonio pam na ddylen ni ddisgwyl i bawb sy’n ddibynnol ar alcohol ddangos awydd i newid