Seiat ddysgu ar-lein gydag Alcohol Change UK
10:00 tan 12:50, Dydd Iau 13 Mawrth 2025
Mae alcohol yn aml yn ffactor mewn hunan-laddiad, ond beth yw union ystyr hynny? Ni ellir dweud bod alcohol yn achosi hunan-laddiad, ond does dim gwadu ei bwysigrwydd mewn llawer o sefyllfaoedd sy’n arwain at hunan-laddiad.
Yn y seiat ddysgu ar-lein yma, byddwn ni’n tyrchu’n ddwfn i’r gydberthynas gymhleth yma, ac yn ystyried beth gallwn ni i gyd ei wneud i leihau niwed ac achub bywydau.
Mae'r siaradwyr gwadd yn cynnwys:
- Mike Ward o Alcohol Change UK , ar deall hunan-laddiad ymhlith yr yfwyr dibynnol mwyaf bregus
- Ceri Fowler o NHS Cymru, ar rôl sylweddau mewn hunan-laddiadau diweddar yng Nghymru
- Mark Brooks OBE, ar fynd tu hwnt i siarad am “gwrywdod gwenwynig” a datblygu dulliau cadarnhaol i atal hunan-laddiad ymhlith dynion
- Eva Bell o’r Consortium Atal Hunanladdiad, yn trafod sut i wneud cymorth ynglŷn ag alcohol a syniadau am hunan-laddiad yn haws ei gael