Nid pobl sydd anodd eu cyrraedd. Ni sydd heb eu cyrraedd. Yn y gynhadledd undydd hon byddwn ni’n clywed gan bobl a chymunedau rydyn ni heb gysylltu â nhw’n dda hyd yn hyn, ac yn dysgu mwy am sut i bontio’r bylchau.
Agor drysau: Gwneud cymorth alcohol yn haws ei gael i bawb
English | Cymraeg
Cynhadledd ar-lein genedlaethol Alcohol Change UK. Dydd Iau 2 Mawrth 2023
Mynd i’r afael ag anghydraddoldeb
Anaml bydd perthynas rhywun ag alcohol yn un syml. Bydd ethnigrwydd, rhywedd, rhywioldeb, a sawl ffactor arall yn dylanwadau arni. Mae’n rhaid i asiantaethau sy’n ceisio cefnogi pobl i osgoi problemau alcohol, neu i’w goresgyn, gydnabod y cymhlethdod os ydyn nhw o ddifri am fynd â’r maen i’r wal.
Yn ystod Agor drysau byddwn ni’n clywed gan ymchwilwyr, ymarferwyr a phobl gyda phrofiad personol, am sut gallwn ni gofleidio’r cymhlethdod a datblygu dulliau effeithiol ar gyfer gweithio gydag unigolion a chymunedau amrywiol.
Gwella gwasanaethau
Ymdrin yn ymarferol â phroblemau’r byd go-iawn yw amcan cynadleddau Alcohol Change UK. Efallai eich bod chi’n gweithio mewn gwasanaeth trin alcohol a chyffuriau, ym maes gofal iechyd, gofal cymdeithasol, neu dai a digartrefedd, mewn prifysgol neu yn y gwasanaethau brys. Os ydych chi am leihau niwed a gwella bywydau, dyma gynhadledd i chi.
Mae'r siaradwyr yn cynnwys
- Yaina Samuels o Adferiad, ar wrth-hiliaeth a lleihau niwed
- Tîm prosiect Dweud ein hanes o Brifysgol Abertawe, yn rhannu profiadau Sipsiwn, Roma a Theithwyr o alcohol
- Dr Lucy Allwright o AVA, yn siarad am fentrau i gefnogi merched gydag anghenion cymhleth
- Shannon Murray o Brifysgol De Cymru, ar brofiadau pobl LHDT+ o ddefnyddio sylweddau ac o driniaeth
- Yr Aelod Seneddol Dan Carden, a Melissa Rice, yn sgwrsio am y roliau mae alcohol wedi’u chwarae yn eu bywydau a’u hunaniaeth.
Mae tocynnau ar werth am £70 (ynghyd â Treth ar Werth). Cysylltwch â ni i gael gwybod am ddisgowntiau i fyfyrwyr a phobl gyda phrofiad personol.
Cadwch eich tocynnau yma
Dyma siaradwyr ein cynhadledd ar-lein genedlaethol Agor Drysau: Gwneud cymorth alcohol yn haws ei gael i bawb