2 Mawrth 2023
Dyma'r siaradwyr
English | Cymraeg
Dyma siaradwyr ein cynhadledd ar-lein genedlaethol Agor Drysau: Gwneud cymorth alcohol yn haws ei gael i bawb
Siaradwyr
Mae Lucy yn gweithio i fynd i’r afael â thrais yn erbyn menywod a merched, gan arbenigo’n benodol ar aml-anfanteision, ymarfer sy’n cydnabod trawma, a chynnwys arbenigwyr-trwy-brofiad. Mae hi’n un o gyd-sylfaenwyr y grŵp gweithredu Sisters Uncut.
Iman yw Cyfarwyddwr Tell MAMA, sy’n cefnogi dioddefwyr casineb gwrth-Fwslimaidd ac yn cofnodi digwyddiadau gwrth-Fwslimaidd. Mae hi’n arwain prosiectau ym Mhrydain a’r Dwyrain Canol i leihau gwrthdaro, pontio rhwng cymunedau ffydd, a mynd i’r afael ag eithafiaeth.
Wedi’i ethol yn Aelod Seneddol dros Lerpwl Walton in 2017, Sgowser brwd yw Dan. Mae e wedi siarad yn Nhŷ’r Cyffredin am ei frwydrau ei hun ag alcohol ac am y gefnogaeth a gafodd gan y rhai o’i gwmpas.
Mae gan Louise gefndir clinigol mewn nyrsio iechyd cyhoeddus ac mae ei gwaith academaidd yn canolbwyntio ar anghydraddoldebau iechyd. Yn ddiweddar, bu hi’n ymchwilio i iechyd a ac arferion defnyddio gwasanaethau iechyd carfanau bregus fel mewnfudwyr; Sipsiwn, Roma a Theithwyr; a phobl gyda phroblemau iechyd meddwl.
Mae Sarah yn Athro Ymchwil Gymdeithasol a Defnyddio Sylweddau ym Mhrifysgol Metropolitan Manceinion, gan sefydlu a chyd-arwain y Grŵp Ymchwil i Ddefnyddio Sylweddau ac Ymddygiadau Cysylltiedig (SUAB) yno. Mae ganddi arbenigedd hefyd ym meysydd cam-drin yn y cartref, gofal diwedd oes, ac ymgysylltu â chymunedau ethnig lleiafrifol.
Mae Gary yn arwain gwaith Cyngor Glasgow ar Alcohol. Mae ganddo gryn brofiad ym meysydd iechyd a gofal cymdeithasol, gyda phwyslais ar wasanaethau sy’n hybu gwellhad, ac mae e wedi gweithio i nifer o elusennau cenedlaethol a lleol, i awdurdodau lleol, a busnesau preifat.
Yn ogystal â bod yn gadeirydd ymddiriedolwyr Alcohol Change UK, mae Fiyaz yn adnabyddus fel arbenigwr a siaradwr ar gytgord cymdeithasol a gwrth-eithafiaeth. Sefydlodd Faith Matters a Tell MAMA, ac mae’n lladmerydd brwd dros ddeialog rhwng Mwslimiaid ac Iddewon.
Mae Shannon yn Gynorthwywr Ymchwil yng Nghyfadran Gwyddorau Bywyd ac Addysg Prifysgol De Cymru. Mae hi ar hyn o bryd yn ymgymryd ag ymchwil i brofiadau pobl LHDT o ddefnyddio sylweddau ac o driniaeth.
Mae Peter yn Brif Ddarlithydd yn Adran Gwaith Cymdeithasol, Gofal Cymdeithasol ac Astudiaethau Cymunedol Prifysgol Sheffield Hallam. Mae ganddo lawer blwyddyn o brofiad ym meysydd gofal cymdeithasol, iechyd meddwl, gwaith cymdeithasol cymunedol, a diogelu plant.
Ar hyn o bryd, mae Menna yn gwneud gwaith ymchwil ar ran Alcohol Change UK i brofiadau Sipsiwn, Roma a Theithwyr o alcohol. Mae hi hefyd yn ymchwilio i berthynas pobl gyda bwyd, gan gynnwys gorfwyta a rôl byrbwylltra mewn gordewdra.
Melissa yw awdur Sobering: Lessons Learnt the Hard Way on Drinking, Thinking and Quitting ac yn un o ddwy gyflwynydd podlediad llwyddiannus BBC Radio 5 Live Hooked: The Unexpected Addicts. Mae hi wedi ymroi i godi ymwybyddiaeth ynghylch dibyniaeth a gwellhad trwy ei gwaith fel un o ymddiriedolwyr Sefydliad Amy Winehouse ac fel ymgynghorydd i’r Gynghrair Iechyd ac Alcohol.
Mae Yaina wedi gweithio yn y sectorau cyhoeddus, preifat a gwirfoddol yng Nghymru a Sierra Leone. Mae hi’n gweithio ar hyn o bryd i Adferiad yn ne Cymru i wella mynediad i wasanaethau defnyddio sylweddau ac iechyd meddwl i bobl o gymunedau ethnig lleiafrifol, a chyfrannodd at ddatblygu Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol gyda Llywodraeth Cymru.
Sharon Cyfarwyddwr Arc Research and Consultancy, cwmni ymchwil sy’n arbenigo ar brosiectau ynglŷn â gwydnwch.
Peidiwch oedi - cadwch eich tocynnau heddiw!