Seiat ddysgu ar-lein gydag Alcohol Change UK
09:20 tan 13:00, Dydd Iau 14 Mawrth 2024
Mae’r gydberthynas rhwng alcohol a cham-drin domestig yn amlwg ond cymhleth. Nid alcohol sy’n achosi cam-drin ond nid oes modd gwadu ei fod yn gallu dwysáu sefyllfaoedd o gam-drin a’u cymhlethu. Gwyddom fod mynd i’r afael ag yfed a cham-drin domestig gyda’i gilydd yn hollbwysig. Gwyddom hefyd nad dyna sy’n digwydd mewn gwirionedd bob tro.
Yn y seiat ddysgu ar-lein yma, cewch chi glywed gan arbenigwyr yn y ddau faes a chydweithio ag eraill i adnabod anghenion a cheisio atebion. Os ydych ar dân dros leihau niwed a hybu gwell ansawdd bywyd i bobl, dyma’r digwyddiad i chi.
Mae'r siaradwyr gwadd yn cynnwys:
- Lucy Allwright a Sarah Fox, yn datblethu’r cysylltiadau dyrys rhwng cam-drin domestig ac alcohol
- Mike Ward, ar gam-drin domestig a dynladdiad ymhlith yfwyr anystywallt sy’n ddibynnol ar alcohol
- Aunee Bhogaita a Sarah Galvani, yn trafod profiadau merched De Asiaidd
- Emma Northcott o Brosiect EVA, yn esbonio eu gwaith i ddarparu tai arbenigol ar gyfer menywod sy’n dianc rhag cam-drin domestig a thrais rhywiol
Bydd hefyd sesiwn strwythuredig mewn grwpiau bychan er mwyn hwyluso i weithwyr yn y sectorau a alcohol a cham-drin domestig graffu ar y glo mân gyda’i gilydd.