Meet the speakers

English | Cymraeg

Cynhadledd ar-lein gyntaf Alcohol Change UK

Cydnabod y person cyfan: Alcohol, iechyd meddwl ac anghenion amrywiol

Dydd Mercher 2 Rhagfyr a Dydd lau 3 Rhagfyr 2020

Diwrnod 1: Dydd Mercher 2 Rhagfyr

Josh Connolly Cafodd Josh Connolly ei fagu’n fab i dad a yfai’n drwm ac aeth drwy ei frwydrau ei hunan ag afiechyd meddwl ac alcohol. Wedi hen gefnu ar geisio gwthio ei broblemau o’r neilltu, mae bellach yn meddwl yn wahanol am gryfder, gan “gydnabod fy mod i’n fregus, ac yn fy nghadw fy hunan o fewn cyrraedd i bobl eraill”. Twitter: @josh_ffw
Dr Anne Campbell Uwch-Ddarlithydd ym Mhrifysgol y Frenhines, Belffast, ac aelod o Banel Ymgynghorol y Deyrnas Unedig ar Gamddefnyddio Cyffuriau yw Anne Campbell. Mae ei gwaith ymchwil yn canolbwyntio ar gamddefnyddio sylweddau ac iechyd meddwl, ac mae wedi ennill Cymrodoriaeth Oes Mewn Alcohol a Chyffuriau ym Mhrifysgol Gwyddorau Iechyd Oregon. Twitter @AnniecampbellA
Victoria Williams Victoria Williams yw prif therapydd cyn-filwyr Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe, gan arbenigo ar iechyd milwrol a thrawma. Mae’n Therapydd Gwybyddol Ymddygiadol (CBT) wedi’i hachredu gan BABCP ac ar hyn o bryd mae’n gweithio tuag at radd meistr mewn Dadsensiteiddio ac Ailbrosesu Symudiadau’r Llygaid (EMDR).
Yr Athro Bev John Bev John yw Pennaeth Ymchwil Ysgol Seicoleg Prifysgol De Cymru a Chyd-arweinydd y Grŵp Ymchwil i Gaethiwed yno. Iechyd seicolegol a newid ymddygiad er gwell yw ei phrif ddiddordebau ymchwil: @ProfBevJohn
Yr Athro Gareth Roderique-Davies Mae Gareth Roderique-Davies yn ymchwilydd a seicolegydd clinigol ym Mhrifysgol De Cymru, gyda diddordeb arbennig mewn caethiwed a chanlyniadau seicolegol hir-dymor defnyddio cyffuriau. Efe hefyd yw “drymiwr gorau ond un” y banc roc “chwedlonol” o ddarlithwyr Zimbando. Twitter: @GazRodDavies

Diwrnod 2: Dydd Iau 3 Rhagfyr

Chelsey Flood Nofelydd arobryn ac awdur y blog Beautiful Hangover yw Chelsey Flood o Fryste. Mae’n ysgrifennu am alcohol, iechyd meddwl, bod yn ferch, a llu o bethau eraill. Twitter: @cjflood_author
Marcus Barnes Mae Marcus Barnes yn olygydd, awdur, a DJ, gyda 15 mlynedd a rhagor o brofiad o newyddiaduraeth print ac ar-lein. Ysgrifennodd nifer o lyfrau, gan gynnwys Around the World in 80 Raves, a bu’n blogio’n ddiweddar i Alcohol Change UK am rôl alcohol ym mywydau dynion, ac am fagu plant yn y Cyfnod Cloi. Twitter: @mgoldenbarnes
Dr Sharon Cox Uwch-Gymrawd Ymchwil yng Ngholeg Prifysgol Llundain yw Sharon Cox. Mae’n ymchwilio ar hyn o bryd i ddulliau i gefnogi oedolion digartref i roi’r gorau i smygu, gan gynnwys posibiliadau e-sigaréts. Twitter: @Sharon_ACox
Tracy Lee Mae Tracy Lee yn Ymgynghorydd Tai i Gymdeithas Tai Hafan Cymru ac i Hafal, prif elusen Cymru i bobl gydag afiechyd meddwl difrifol a’u cynhalwyr. Mae ganddi gryn brofiad ar lawr gwlad ac o reoli a gweddnewid gwasanaethau er gwell.
Mike Ward Uwch-Gymrawd gydag Alcohol Change UK yw Mike Ward. Wedi bwrw ei brentisiaeth fel gweithiwr cymdeithasol, aeth ymlaen i sefydlu Gwasanaeth Ymgynghorol Surrey ar Alcohol a Chyffuriau. Mae’n un o gyd-awduron y Llawlyfr Golau Glas ar weithio gydag yfwyr anystywallt a bregus.
Richard Piper Ymunodd Richard Piper ag Alcohol Change UK fel Prif Weithredwr yn 2017, a bu’n gweithio cyn hynny i Mencap, NCVO ac Elusen Fendigedig Roald Dahl i Blant. Mae’n un o ymddiriedolwyr Cymdeithas Cymalwst Cronig Plant ac yn wirfoddolwr gyda Gwerin y Coed St Albans. Twitter: @RichardCPiper