Amdanom ni

English | Cymraeg

Mae Alcohol Change UK yn elusen flaengar a grëwyd trwy gyfuno Alcohol Concern ac Alcohol Research UK.

Mae alcohol yn rhan o fywyd llawer un. Caiff ei ddefnyddio i ddathlu, cymdeithasu, ymlacio, ymdopi, a lleddfu siom. Caiff ei drin yn wahanol i gyffuriau eraill; mae’n gyfreithlon, derbyniol, normal.

Ond bob awr yn y Deyrnas Unedig mae rhywun yn marw o ganlyniad i alcohol. Gall effeithiau camddefnyddio alcohol – problemau iechyd meddwl, clefyd yr afu, sawl math o ganser, trafferthion ariannol, a llawer rhagor – daro unrhyw ohonom, ni waeth ein cefndir na’n statws.

Mae’r niwed yn mynd tu hwnt i’r unigolyn. Mae pob un ohonom sy’n goryfed yn rhan o deulu a chymuned sy’n teimlo’r effeithiau hefyd – effeithiau fel galwadau ar y gwasanaethau brys, gyrru’n feddw, trais neu esgeulustod.

Ni yw Alcohol Change UK. Gweithiwn dros greu cymdeithas sy’n rhydd rhag y niwed y gall alcohol ei achosi.

Nid gwrthwynebu alcohol rydym ni, ond pleidio newid. Rydym o blaid dyfodol lle mae pobl yn yfed trwy ddewis yn lle trwy arfer; lle awn ni i’r afael â’r pethau sydd wrth wraidd problemau alcohol – fel tlodi, salwch meddwl neu digartrefedd; lle mae’r rhai sy’n goryfed, a’u hanwyliaid hefyd, yn gallu cael cymorth o safon, pryd bynnag mae ei angen, heb warth na chywilydd.

Nid problemau syml mo’r rhain, na’r atebion chwaith. Ond mae gennym uchelgais. Credwn fod pawb yn haeddu byw bywyd llawn, yn rhydd rhag niwed alcohol. Crëwn newid ar sail tystiolaeth, gan weithio tuag at bum newid pwysig: gwell gwybodaeth, gwell rheolau a pholisïau, newid syniadau am alcohol, gwella arferion yfed, gwell cefnogaeth a thriniaeth a mwyn o ohonynt.

Ein gwerthoedd

Gonestrwydd

Rydym ni’n ceisio’r gwir a’i gyhoeddi.

Tosturi

Rydym ni’n tosturio o ddifri’ wrth bawb sydd wedi’i niweidio’n ddifrifol gan alcohol, pwy bynnag ydynt.

Uchelgais dros newid

Rydym ni’n obeithiol a phenderfynol.

Ein gwaith

Er mwyn gwireddu ein gweledigaeth o fyd heb niwed alcohol difrifol, gweithiwn dros bum newid angenrheidiol:

Gwell gwybodaeth

Po fwyaf a wyddom ni am niwed alcohol, y mwyaf y gallwn ei wneud i’w leihau. Rydym ni am i bolisïau ac ymarfer ynglŷn ag alcohol gael eu datblygu ar sail tystiolaeth gadarn ac ymchwil drylwyr; i syniadau newydd am niwed alcohol gael eu creu, eu profi a’u rhannu; ac i’n gwybodaeth gael ei chyfoethogi gan brofiadau’r rhai sydd wedi byw gyda niwed alcohol.

Gwell rheolau a pholisïau

Gall y newidiadau cywir i ddeddfau a rheolau wneud gwahaniaeth i filiynau o fywydau. Rydym ni am weld polisïau sy’n rhoi blaenoriaeth i leihau pob ffurf ar niwed alcohol; polisïau sydd wedi’u seilio ar dystiolaeth soled.

Newid syniadau am alcohol

Rydym ni’n ysgogi pobl i feddwl ac i siarad yn agored am alcohol. Creu diwylliant yfed mwy cytbwys, lle mae alcohol yn llai canolog, yw’r nod.

Gwella arferion yfed

Rydym ni’n gweithio i helpu mwy o bobl i fagu’r gallu, yr hyder a’r awydd i newid eu arferion yfed, heb gymaint o angen cymorth arbenigol.

Gwell cefnogaeth a thriniaeth, a mwy ohonynt

Rydym ni’n gweithio gyda sefydliadau ac ymarferwyr er mwyn helpu adeiladu sector triniaeth bywiog ac amrywiol sy’n effeithiol, wedi’i ariannu’n ddigonol, wedi’i gomisiynu a’i gydlynu’n dda, a hawdd i yfwyr a’u teuluoedd ei ddefnyddio.

Ein gwreiddiau

Crëwyd Alcohol Change UK trwy gyfuno Alcohol Concern ac Alcohol Research UK yn Ebrill 2017. Lansiwyd yr elusen newydd yn Nhachwedd 2018.

Sefydlwyd Alcohol Concern yn 1984 ac mae ganddi hanes hir o ymgyrchu, gweithio gyda’r sector triniaeth, a chefnogi pobl yn uniongyrchol. Sefydlwyd Alcohol Research UK (y Cyngor Addysg ac Ymchwil i Alcohol gynt) yn 1982, ac mae wedi ariannu mwy na 800 o brosiectau er mwyn cynyddu’r corff o dystiolaeth ynglŷn â lleihau niwed alcohol.
Gweledigaeth o fyd heb niwed alcohol difrifol sydd gennym. Gyda’n gilydd, gweithiwn tuag at bum newid pwysig: gwell gwybodaeth, gwell rheolau a pholisïau, newid syniadau am alcohol, gwella arferion yfed, gwell cefnogaeth a thriniaeth a mwyn o ohonynt.

Mae ein hadroddiad lansio yn edrych ar alcohol ym Mhrydain heddiw, ac yn dadlau dros y newidiadau sy’n angenrheidiol er mwyn lleihau niwed alcohol difrifol.