Mae pob un ohonon ni’n gweld y byd yn wahanol. O’r blaen, byddai rhai yn gweld y rhai o’r fath wahaniaethau yn anawsterau neu’n anableddau, ond yn yr 1990au bathodd Judy Singer – cymdeithasegydd o Awstralia – ac eraill y term “niwroamrywiaeth” er mwyn annog pobl i dderbyn a dathlu bywydau’r rhai sy’n ymdrin â’r byd mewn ffyrdd gwahanol i’r rhelyw.
Yn aml, byddwn ni’n sôn am fod yn “niwroamrywiol” mewn cyferbyniad â bod yn “niwroarferol”, sef fel mae’r rhai fwyaf o bobl yn meddwl a theimlo. Gellir ystyried llawer o bethau’n “niworamrywiol”, ond fel arfer mae’r term yn cynnwys y sbectrwm awtistiaeth ac anhwylder diffyg sylw a gorfywiogrwydd (ADHD).
Efallai i chi hefyd glywed y term “Syndrom Asperger”. Roedd yr enw yma ar lafar gwlad rhwng 1992 a 2019 i ddisgrifio rhai pobl ar y sbectrwm awtistiaeth ond cefnwyd arno erbyn hyn.
Mae nifer o bethau sy’n nodweddiadol o bobl ar y sbectrwm awtistiaeth – sydd yn aml yn eu disgrifio’u hunain fel “pobl awtistig”:
- Prosesu gwybodaeth yn wahanol a rhyngweithio’n gymdeithasol yn wahanol. Yn aml, bydd person awtistig yn prosesu gwybodaeth newydd yn arafach a/neu yn methu â chanfod rhai arwyddion cymdeithasol gan bobl eraill.
- Ymddygiad a/neu ddiddordebau cyfyng neu ailadroddus. Bydd hyn i’w weld weithiau ar ffurf diddordeb angerddol mewn un pwnc neu weithgaredd.
- Sensitifrwydd i sŵn, goleuni a chyffyrddiad. Mae’n bosibl bydd pobl awtistig, felly, yn anesmwyth mewn mannau swnllyd, prysur neu ddi-drefn.
Ar un adeg, roedd rhai yn tybio na fyddai pobl awtistig yn yfed alcohol, gan byddai’n peri iddyn nhw golli rheolaeth. Ond mae’r swmp o “hunangofiannau awtistiaeth” sydd i’w gael erbyn hyn wedi datguddio bod llawer o oedolion awtistig yn defnyddio alcohol, a’u bod yn ei ddefnyddio weithiau er mwyn ymdopi â phwysau bod yn awtistig mewn byd niwoarferol. Gall alcohol fod yn rhan o’r “ymguddio” bydd rhai pobl awtistig yn ei wneud er mwyn peidio â bod yn rhy amlwg yn y byd.
Mae ymchwil a wnaeth y Ganolfan Ymchwil Gymhwysol i Awtistiaeth (CAAR) ym Mhrifysgol Caerfaddon ar ein rhan ni wedi dangos bod pobl awtistig yr un mor debygol ag unrhyw un arall o wynebu problemau alcohol, ond pan fyddan nhw’n cael y fath broblemau, bod ceisio cymorth yn anodd iddyn nhw gan nad yw gwasanaethau bob tro’n gwybod sut i’w cefnogi. Tynnodd ymchwilwyr CAAR restr o gamau ymarferol gall gwasanaethau alcohol eu cymryd er mwyn bod yn fwy croesawgar i bobl awtistig:
- Yn bennaf oll, deallwch awtistiaeth: Sef deall cryfderau awtistig – fel manwl gywirdeb a gonestrwydd – yn ogystal â rhai o’r problemau posibl, fel chwithdod cymdeithasol.
- Byddwch yn barod: Gwnewch yn siŵr fod y person awtistig rydych chi’n eu cefnogi yn gwybod beth i’w ddisgwyl a phwy byddan nhw’n eu gweld. Gofynnwch iddyn nhw am eu hanghenion.
- Byddwch yn gyson: Rhowch amser apwyntiad rheolaidd iddyn nhw, gyda’r un person bob tro os oes modd.
- Byddwch yn eglur: Esboniwch bob tro pam mae rhywbeth yn digwydd.
- Byddwch yn ddealladwy: Defnyddiwch ieithwedd syml a pheidiwch â defnyddio trosiadau, jargon nac acronymau. Os ydych chi’n trafod emosiynau, gwnewch hynny trwy enghreifftiau o brofiadau bywyd go-iawn yn hytrach na labeli yn unig.
- Tynnwch anwylyn, cymar neu eiriolwr i mewn i’r sesiynau: Gall hyn helpu, ond dim ond gyda chydsyniad y person awtistig. Nhw sydd biau’r gair olaf ar hyn.
Ein gobaith yw na fydd y fath addasiad yn ormod o faich ar wasanaethau sydd eisoes yn trefnu eu gwaith o gwmpas anghenion unigolion. Yng ngeiriau’r Athro Mark Brosnan o Gaerfaddon, “Trwy fod yn groesawgar i awtistiaeth, byddwch chi’n groesawgar i bawb”.
Yn ôl yr ystadegau swyddogol, 3% neu 4% o oedolion Prydain sydd ag anhwylder diffyg sylw a gorfywiogrwydd (ADHD) ac mae diagnosis deirgwaith yn fwy tebygol mewn dynion na merched. Yn ystod plentyndod, fel arfer, y ceir diagnosis, ac mae’n bosibl fod y gwahaniaeth mawr rhwng diagnosisau bechgyn a merched yn deillio o wahaniaethu ymddygiad. Mae bechgyn gydag ADHD yn tueddu i ddenu sylw trwy fod yn anystywallt, tra bydd merched yn dueddol o beidio â chanolbwyntio, sy’n ymddygiad llai amlwg. Mae cyfraddau diagnosisau ADHD wedi cynyddu’n fawr yn y blynyddoedd diwethaf. Nid yw’n gwbl glir beth yw’r rhesymau dros hyn, ond mae’n bosibl ein bod wedi mynd yn well am ganfod yr arwyddion.
Mae’r elusen ADHD UK yn cynnig y rhestr ganlynol o arwyddion a symptomau ADHD:
- Anhawster rhoi sylw i fanylion, a sylw rhywun yn cael ei dynnu hawdd at bethau eraill.
- Trafferth trefnu gorchwylion a gweithgareddau.
- Osgoi gorchwylion sy’n mynnu ymdrech feddyliol barhaol, a cholli pethau sy’n angenrheidiol at ymgymryd â gorchwylion a gweithgareddau.
- Siarad gormod a thorri ar draws, ymddangos fel tasech chi ddim yn gwrnado wrth i rywun siarad â chi.
Pethau bydd pawb yn ei wneud o bryd i’w gilydd yw’r rhain ond fe fyddan nhw i’w gweld yn amlach ac yn fwy parhaol mewn pobl sydd ag ADHD. Er mwyn barnu ai ADHD sydd wrth wraidd patrwm symptomau rhywun, mae angen diagnosis meddygol.
Mae rhywfaint o dystiolaeth fod pobl ag ADHD yn fwy tebygol o wynebu problemau ag alcohol, o bosib am yr un rhesymau ag mae rhai pobl awtistig yn goryfed – mewn byd nad yw bob troi’n garedig i wahaniaethau niwrolegol, mae cryn demtasiwn i bylu’r poeni ag alcohol. Ond, fel nododd y troellwr disgiau Andy Mac yn ei flog i ni am ei brofiadau, er bod ei fod yn yfed er mwyn rheoli ei bryder, “mae alcohol yn cyd-fynd yn ofnadwy â rhai o brif symptomau ADHD, fel gweithredu ar chwiw a methu deall emosiynau a’u mynegi”.
Dewisodd Andy Mac yn y pen draw roi’r gorau’n llwyr i alcohol. Nid dyma fydd dewis pawb gydag ADHD, ond mae’n llesol i ni gyd gymedroli. Efallai bydd ein cynghorion ar yfed llai a’n hadolygiadau o ddiodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol yn ddefnyddiol i chi yn hynny o beth.
Yn union fel awtistiaeth, mae modd gweld ADH gweld ADHD yn gryfder ac ym mhrofiad rhai pobl ag ADHD, gallan nhw:
- Llwyr ganolbwyntio ar bwnc neu weithgaredd, gan ddod yn wybodus iawn neu’n gynhyrchiol iawn.
- Gwneud yn dda mewn argyfwng sy’n mynnu eu sylw i gyd.
- Defnyddio eu tuedd i grwydro’n feddyliol er mwyn cyrraedd atebion creadigol i broblemau.
Fel gydag awtistiaeth, cryfderau yw’r rhain efallai bydd modd i wasanaethau alcohol fanteisio arnyn nhw er mwyn helpu rhywun i oresgyn problem alcohol.
Er mwyn clywed mwy am brofiadau personol o niwroamrywiaeth ac alcohol, darllenwch hanes Chelsey am awtistiaeth ac alcohol a phrofiad Andy Mac o ADHD ac alcohol ar ein gwefan.
Mae Ella Tabb wedi ysgrifennu ar wefan y Gymdeithas Awtistiaeth Genedlaethol am eu profiadau o fyw gydag awtistiaeth ac ADHD fel oedolyn ac am effeithiau’r ddau gyflwr ar ei gilydd.